Hanes Ymfudiad

Daeth yr ymchwydd a ddigwyddodd o ganlyniad i gynnydd y diwydiant glô â dimensiwn newydd i boblogaeth y cymoedd, gyda chynnydd enfawr o wynebau anghyfarwydd o wledydd pell yn ymgartrefu yn Ne Cymru.

Rhwng 1851 ac 1911, mae cofnodion yn dangos bod tua 366,000 o bobl wedi symud i’r ardal. Daeth yr ymfudiad yma i’r brig rhwng 1901 ac 1911, pan ddaeth 12,900 o bobl i’r Cymoedd am y tro cyntaf. Gyda’r sefyllfa twf fel yr oedd hi bryd hynny, roedd De Cymru’n croesawu mwy o fewnfudwyr ar raddfa gyflymach nag unrhyw le yn y byd, heblaw yn Unol Daleithiau America.

Hyd at y 1890au, roedd llawer o’r bobl a symudodd yma’n dod o lefydd eraill yng Nghymru. Ar ôl y 1890au, y Saeson a ddaeth yn heidiau yn ogystal â rhai o ymhellach i ffwrdd fel Iwerddon, yr Alban a hyd yn oed Awstralia.

Mewn llefydd fel Dowlais ac Abercraf, fe ymgartrefodd llawer o deuluoedd Sbaeneg gan greu eu cymunedau bach eu hunain. Daeth llawer o Rwsiaid, Pwyliaid a Ffrancwyr hefyd, ynghyd â’r Eidalwyr sydd â’u caffis yn dal i weini ar bobl y trefi hyd heddiw.

Mae dirywiad y diwydiant glô yn adrodd stori wahanol gyda llawer o bobl yn gadael y Cymoedd rhwng 1919 ac 1939 yn benodol.

Chwilio Digwyddiadau

Chwilio am Ddigwyddiadau

Type
Area
Date
Bookmark and Share

Nodweddion