Gwybodaeth Ddefnyddiol a chysylltiadau’r we
Mae’n rhan o’r natur ddynol i fod yn chwilfrydig am ein gorffennol a’n hachau a chydag ychydig o gymorth mae erioed wedi bod yn haws i olrhain eich gwreiddiau yn y Cymoedd. Mae yna gyfoeth o wybodaeth i’w ddarganfod mewn nifer o lyfrgelloedd yr ardal ac mi fydd y cysylltiadau a ddarperir yma’n sicrhau bod eich ymchwiliad yn cychwyn yn dda.
Grŵp Hanes Lleol Abersychan a Garndiffaith
Mae’r wefan hon wedi ei hanelu at aelodau, cymunedau lleol a disgynyddion nifer o bobl o’r ardal hon sy’n byw ledled y byd. Enghreifftiau o’r math o bethau a allwch ddod o hyd iddynt ar y wefan hon yw:
- Disgrifiad a lleoliad eich ardal
- Hanes Amaethyddol
- Hanes Diwydiannol
- Cyhoeddiadau
- Cymorth ar Hanes Teulu
- Manylion Aelodaeth a’n rhaglen am y flwyddyn
Mae cyfarfodydd Grŵp Hanes Lleol Ardal Abersychan & Garndiffaith yn cael eu cynnal ar nosweithiau Llun yn Neuadd yr Henoed Garndiffaith ac yn dechrau am 7yh. Mae croeso mawr i newydd-ddyfodiaid.
Mae gan wefan Abertyleri Ar-lein adrannau penodol ar hanes lleol a theuluol, gyda gwybodaeth chwilio, diddordebau pobl a chyfleoedd ymchwilio yn defnyddio cofnodion cyfrifiad, cofnodion claddu, arysgrifau coffaol ayb ar gyfer yr ardal leol yn ogystal ag adrannau hanesyddol ar yr Hen Abertyleri, o ddefnydd i achyddion sydd â diddordeb yn yr ardal. Mae gan y bwrdd negeseuon cysylltiedig adran benodol ar gyfer ymholiadau Hanes Teuluol.
Cymdeithas Amgueddfa Abertyleri a’r Ardal
Darparu gwybodaeth ar yr amgueddfa a’i hanes, y casgliadau, newyddion, digwyddiadau ac aelodaeth.
Pentref a leolir i’r gogledd o Abertyleri. Mae’r wefan yn cynnwys hanes, gwybodaeth achyddiaeth, eglwysi, newyddion a theithiau cerdded, yn ogystal â bwrdd negeseuon sy’n croesawu ymholiadau ar achyddiaeth a hanes lleol.
Gwefan Llanhiledd (Valleys Girl)
Mae Llanhiledd yn gorwedd ychydig i’r dde o Abertyleri.- “Ar gyfer alltudion Llanhiledd, ble bynnag yr ydych!” – mae’n cynnwys chwedlau lleol a ffotograffau o’r hen Llanhiledd.
Mae ‘Cybertyleri’ hefyd yn gofalu am wefan y ‘South Wales Gazette’. Mae aelodau’r grŵp wedi digideiddio rhifynnau archif y ‘South Wales Gazette’ (o 1888 i 1938) er mwyn adrodd hanes diddorol y dref a chwm gorllewinol Sir Fynwy drwy dudalennau eu papur newydd lleol, gan sicrhau eu bod ar gael ar gyfer ymchwil gan haneswyr lleol a theuluol. Mae’r grŵp yn cwrdd bob bore dydd Mawrth yn ‘St. Michael’s on the Streets’ yn Stryd yr Eglwys ar gyfer ymchwil achyddiaeth ac i chwilio archifau’r ‘South Wales Gazette’ – mae croeso i bawb.
Hen Blaenafon mewn ffotograffau, a hanes lleol a theuluol.
Hanes Brynmawr Cymru – Prosiect Achyddiaeth
Mae gwefan Brynmawr Jeff Thomas yn canolbwyntio ar hanes ac achyddiaeth yr ardal, ac yn darparu rhyw 50 o ffotograffau digidol o ansawdd uchel o’r dref a’r ardal o amgylch. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys hanes cynnar Eglwys Rehoboth, Brynmawr a chyfadeilad Tai Crynion Nantyglo (hanes diwydiannol), cyfeiriadur 1844 Pigot o Frynmawr a Phlwyf Llanelli, Hanes a disgrifiad o Eglwys Plwyf Llanelli, Sir Frycheiniog ac Arysgrifau Coffaol, mynwent eglwys Llanelli.
‘Brynmawrscene’ yw’r wefan gymunedol ar gyfer trigolion, alltudion a disgynyddion pobl Brynmawr, Gwent – y dref uchaf ym Mhrydain. Mae gan y wefan fwrdd negeseuon sy’n croesawu ymholiadau ar hanes ac achyddiaeth.
Ymwelwch â’r wefan i gael rhagor o wybodaeth am Gwmbrân a’i thrigolion. Mae gan y wefan hon bopeth, o hanes cefndirol o Gwmbrân – sy’n edrych yn ôl dros ddyddiau Corfforaeth Datblygiad Cwmbrân a ffatri Lucas Girling – i hen ffotograffau ysgol. Mae gan y wefan hefyd fwrdd negeseuon er mwyn i ffrindiau a ffrindiau ysgol hirgoll i roi sylwadau ar Gwmbrân (yn y gorffennol a’r presennol) ac i roi adborth am y wefan.
Nod y wefan yw datblygu i mewn i hanes manwl ac arf hyrwyddol ar gyfer trigolion gorffennol, presennol a dyfodol Cwmbrân, a chydag ailddatblygiad Canol Tref Cwmbrân, mae hefyd yn lle gwych i alltudion i gadw i fyny gyda beth sy’n digwydd yn eu trefi genedigol.
Gwefannau eraill yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol:

.gif)
.gif)
.gif)
.gif)

