Enwogion y Cymoedd
Y Cymoedd yw calon ac enaid Cymru ac mae sawl wyneb enwog yn hanu o’r rhannau yma hefyd.
Does dim angen edrych ymhellach na meysydd llenyddiaeth, ffasiwn, cerddoriaeth a chomedi er mwyn dod o hyd i’r enwogion sy’n hanu o’r Cymoedd.
Ein mab enwocaf wrth gwrs yw ‘Y Llais’ ei hun – Mistar Tom Jones. Tra ei fod yn medru galw Cwm Rhondda’n ‘green, green grass of home’, yn sicr nid ef yw’r unig un.
Mae eraill o fyd cerddoriaeth, sydd â’r Cymoedd yn dew yn eu gwaed, yn cynnwys y Manic Street Preachers, y Stereophonics, Petula Clark a Donny Osmond. Roedd hyd yn oed teulu mam Kylie o ardal Maesteg o Ben-y-bont ar Ogwr.
Ac fe ddechreuodd rhai o’r actorion gorau erioed i droedio’r llwyfan eu gyrfa yn Ne Cymru. Mae esiamplau’n cynnwys Richard Burton a ddaeth o Bontrhydyfen, Syr Anthony Hopkins o Daibach, Syr Stanley Baker o Glynrhedynog a Ioan Gruffudd – ein Hollywood heartthrob ein hun, a ddaw o Aberdâr.
Mae ein hanes ym myd chwaraeon yr un mor bwysig, gyda llawer o bencampwyr rygbi gwych, yn cynnwys Neil Jenkins, yn dod o’r Cymoedd. Mae un o’r pencampwyr bocsio gorau erioed, Joe Calzaghe, hefyd yn fachgen lleol.
Ac rydym yn medru hawlio sawl digrifwr hefyd. Roedd y cawr comedi Tommy Cooper yn dod o Gaerffili, a blynyddoedd wedyn, mae’r dref ar ochr y mynydd yn dal i wenu wrth gofio amdano.
Rydym yn griw balch iawn yma’n y Cymoedd ac wrth ein bodd bod ein ‘plant’ wedi gwneud argraff cystal ym myd disglair ffasiwn a dylunio. Mae Merthyr Tudful yn unig yn gyfrifol am ddawnau arbennig Laura Ashley a’r athrylith Julien Macdonald.

.gif)
.gif)
.gif)
.gif)

