Polisi Preifatrwydd
Rydym yn dymuno diogelu preifatrwydd defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae'r ddogfen hon yn nodi manylion ein polisi preifatrwydd mewn perthynas â gwybodaeth a gesglir ar www.calonacenaidcymru.co.uk Mae'r ddogfen hon yn gadael i chi wybod: --
· Pryd yr ydym yn casglu gwybodaeth oddi wrthych pan fyddwch yn defnyddio'r Safle;
· Pwy yn union sy’n casglu’r wybodaeth;
· Sut y caiff y wybodaeth ei defnyddio a chan bwy;
· Pa fesurau diogelwch sydd yn eu lle i warchod y wybodaeth;
· Eich hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth hon;
· Sut y gall y polisi hwn newid a sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau.
PRYD A SUT YR YDYM YN CASGLU GWYBODAETH ODDI WRTHOCH?
Rydym yn casglu gwybodaeth oddi wrthych:-
i. pan fyddwch yn cofrestru ar y Wefan i ddweud eich bod yn fodlon i ni anfon gwybodaeth atoch yn y dyfodol.
ii. pan fyddwch yn e-bostio eich manylion atom drwy ddyfeisiau cipio data yn defnyddio cwcis ac yn astudio pa dudalennau yr ydych yn ymweld â nhw amlaf.
PA WYBODAETH SY’N CAEL EI CHASGLU?
Gall y wybodaeth a gesglir gennym fod o natur bersonol a gall gynnwys eich enw, e-bost a'ch cyfeiriad.
Cwcis a System Fewngofnodi
Mae cwci yn ffeil sy'n cael ei gosod ar eich cyfrifiadur gan gyfrifiadur arall ar y rhyngrwyd er mwyn galluogi’r cyfrifiadur yna i wybod pryd yr ydych yn defnyddio'r wefan benodol. Er enghraifft, pe bai gennych gwci ar eich cyfrifiadur cartref, gallech gael eich croesawu wrth eich enw pan fyddwch yn mewngofnodi ar wefan benodol. Er ein bod yn defnyddio cwcis ar y Safle nid ydym yn dibynnu ar eu defnydd. Gallwch ddileu’r cwcis ar eich cyfrifiadur ac ni fydd hyn yn effeithio ar eich defnydd o'r Safle. Nid ydym yn defnyddio manylion sy'n ymwneud â chyfeiriad Protocol Rhyngrwyd cyfrifiadur penodol er mwyn gweinyddu'r Safle nac er mwyn dilyn symudiad defnyddwyr drwy'r Safle.
Rydym, fodd bynnag, yn cofnodi gwybodaeth benodol ynghylch defnydd o'r Safle ar ein systemau mewnol. Fodd bynnag, yr unig ddefnydd a wneir o’r wybodaeth hon yw i’n galluogi i weinyddu'r Safle, i gywiro camgymeriadau ac i ddal manylion defnyddiwr sydd wedi ychwanegu at neu ddiwygio gwybodaeth mewn archif arbennig.
PWY SY’N CASGLU’R WYBODAETH?
Mae'r wybodaeth yn cael ei chasglu gennym ni, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1N ar ran y Cymoedd - ymgyrch gan Blaenau'r Cymoedd, y Cymoedd Gorllewinol a Phartneriaeth y Cymoedd.
Rydym yn cynnal hysbysiadau dilys o dan y Ddeddf Diogelu Data 1998.
Mae'r wybodaeth bersonol adnabyddadwy sydd ei hangen i ddefnyddio'r Safle yn berchen i ni yn unig. Nid ydym yn rhannu, gwerthu neu rentu eich gwybodaeth i unrhyw berson, cwmni neu sefydliad arall mewn unrhyw ffordd heblaw am yr hyn a ddatgelir yn y ddogfen hon, neu fel a nodir yn y man lle mae'r wybodaeth yn cael ei chasglu.
CANIATÂD
Drwy ddatgelu gwybodaeth bersonol, rydych yn cytuno i’r weithred o gasglu, storio a phrosesu'r wybodaeth yn y modd a ddisgrifir yn y Polisi hwn.
SUT MAE'R WYBODAETH YN CAEL EI DEFNYDDIO A CHAN BWY?
O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y byddwn hefyd yn danfon diweddariadau atoch ynglŷn â’r Cymoedd. Mae gennych hefyd yr hawl i eithrio o’r wybodaeth sy’n cael ei defnyddio at ddibenion sydd heb fod yn uniongyrchol gysylltiedig i'r Safle. Am ragor o fanylion am yr hawl hon, gweler 'Eich Hawliau mewn Perthynas â'r Wybodaeth' isod.
PA FESURAU DIOGELWCH SYDD GENNYM ER MWYN GWARCHOD Y WYBODAETH HON?
Er mwyn diogelu eich preifatrwydd mae ein gweithdrefnau diogelwch ar gyfer storio a datgelu manylion cwsmeriaid yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 er mwyn atal neb rhag mynd atynt heb awdurdod. Gall y Safle, o bryd i'w gilydd, gynnwys cysylltiadau i wefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd perchnogion a gweithredwyr y safleoedd hyn. Rydym felly yn eich annog i ddarllen y datganiadau a'r polisïau preifatrwydd ar bob safle lle gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol.
EICH HAWLIAU MEWN PERTHYNAS Â’R WYBODAETH YMA
Mae gennych gyfle hefyd i atal eich gwybodaeth rhag cael ei defnyddio at ddibenion nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r safle, a hynny yn y man lle rydym yn gofyn i chi am y wybodaeth honno. Er enghraifft, os ydych yn dymuno cofrestru i anfon neges ond yn dymuno peidio â derbyn cylchlythyron, e-byst hyrwyddol neu ddeunydd Marchnata yn y dyfodol, yn syml dad-gliciwch y blwch sy'n ymddangos yn y ffurflen honno.
NEWID POLISI
Nodwch os gwelwch yn dda ein bod yn cadw’r hawl i newid y polisi yma ar unrhyw adeg yn y dyfodol, gyda rhybudd neu heb rybudd.

.gif)
.gif)
.gif)
.gif)

