Amdanom ni
Rydym o hyd wedi cynnig ‘welcome in the hillsides’ yn y Cymoedd, ond erbyn hyn mae yna fwy o resymau eto i ddod getre’. Mae cymaint i fod yn falch ohono – Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ym Mlaenafon, yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Flaenau Gwent yn 2010 a Chae Ras newydd sbon Ffos Las i enwi dim ond tri. Ac mae yna gyfle hefyd i olrhain eich gwreiddiau yn y Cymoedd yng nghanolfan hel achau newydd sbon o’r radd flaenaf sy’n agor yn haf 2010.
Mae’r amseru’n berffaith i ni gyd i ddweud ‘Shw mae byt’ wrth rywun sydd wedi bod i ffwrdd am gyfnod – neu hyd yn oed i genhedlaeth newydd o ddisgynyddion y Cymoedd sydd am olrhain eu gwreiddiau yn ol i’r ‘green, green grass of home’. I ddarllen awgrymiadau a chyngor ar sut i wneud hyn, cliciwch yma.
Ar y wefan hon, cewch o hyd i bopeth sydd angen arnoch i gychwyn arni, gan gynnwys gwahoddiadau e-gerdyn. A pheidiwch anghofio cael eich ffrindiau a pherthnasau alltud i gymryd prawf y Cymoedd – wedi’r cyfan, gallwch dynnu’r person allan o’r Cymoedd, ond mae’n amhosib tynnu'r Cymoedd allan o’r person!
Felly p’un a yw’ch hanwyliaid yn byw ym Mognor neu Fogota, 2010 yw’r amser delfrydol iddynt ail-ddarganfod hen wlad eu tadau – ac wrth gwrs eu mamau, mamgu a thadcu, modrybedd, ewythrod, brodyr a chwiorydd hefyd!

.gif)
.gif)
.gif)
.gif)

