Cartref
Mae ‘croeso’ yn air yr ydym yn ei ddefnyddio'n gyson yn y Cymoedd. A dyma fe eto. Croeso i’r wefan ‘Croeso Nôl i’r Cymoedd’. A’r teimlad yma o groeso sydd wrth wraidd y wefan. Croeso cynnes, dagrau hapusrwydd a’r geiriau ‘Mae’n hyfryd eich gweld chi ‘to ar ôl yr holl flynyddoedd’.
Mae pethau wedi newid cymaint yn y Cymoedd dros y blynyddoedd diwethaf fel ein bod yn gweld 2010 yn amser delfrydol i lansio'r ymgyrch ‘Croeso Nôl i’r Cymoedd’. Cymrwch ein gair, mae yna lawer i ymfalchïo ynddo, llawer o bethau i ryfeddu atynt a llawer o bobl i ddal fyny â nhw.
Felly, os ydych yn byw yn y Cymoedd, r'yn ni am i chi ddweud ‘dewch getre’ i ffrindiau a pherthnasau nad ydynt yn byw yma bellach drwy anfon gwahoddiad neu ddau atynt.
Ac os ydych wedi symud i ffwrdd o’r Cymoedd, yna hen dro, ond does ‘na ddim amser gwell i ddod yn ôl i’n gweld ni.


.gif)
.gif)
.gif)
.gif)

