Telerau ac Amodau
1. Y GWASANAETH
1.1 Rydym yn darparu gwasanaeth sy'n caniatáu i unigolion gyflwyno ac edrych ar negeseuon. Os ydych yn dymuno defnyddio'r Gwasanaeth, mae’n rhaid i chi’n gyntaf gytuno â'r telerau yma.
1.2 Rydym yn cytuno i ddarparu'r Gwasanaeth i chi ar yr amod eich bod yn derbyn y telerau a'r amodau a nodir yn y ddogfen hon a'r rhai a nodir yn ein polisi preifatrwydd ar gyfer y Gwasanaeth ('Polisi Preifatrwydd'), sydd i’w ganfod o dan Polisi Preifatrwydd.
1.3 Gall y Telerau Defnyddwyr gael eu diweddaru ar unrhyw adeg gyda neu heb rybudd i chi a bydd y fersiwn diweddaraf yn cael ei osod ar y Safle.
1.4 Drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth, fe ystyrir eich bod wedi derbyn y Telerau Defnyddwyr.
2. POLISI PREIFATRWYDD
2.1 Mae Gwybodaeth bersonol a gwybodaeth benodol arall amdanoch yn amodol ar ein Polisi Preifatrwydd. Dylech fod yn ymwybodol, drwy gytuno i’r Telerau Defnyddwyr hyn, eich bod yn cydnabod y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth yma yn unol â thelerau ein Polisi Preifatrwydd ac, yn benodol, eich bod yn caniatâu y gall elfennau cyfyngedig o’r wybodaeth yma (eich enw a’ch cyfeiriad e-bost) fod ar gael dros y Rhyngrwyd yn rhan o'r Gwasanaeth.
3. DEFNYDD O'R GWASANAETH
3.1 Rydych yn gwarantu i ni na fyddwch yn defnyddio'r Gwasanaeth at unrhyw ddiben sy’n anghyfreithlon neu’n cael ei wahardd gan y Telerau Defnyddwyr. Yn benodol, na fyddwch yn cytuno i ddefnyddio'r Gwasanaeth i:
3.2 drin neu fel arall newid dynodwyr er mwyn cuddio tarddiad unrhyw neges a drosglwyddir drwy'r Gwasanaeth;
3.3 amharu neu ymyrryd ar weithrediad y Gwasanaeth, y wefan sy’n cynnal y Gwasanaeth neu unrhyw weinydd neu rwydweithiau sy’n gysylltiedig â’r wefan hon;
3.4 fynd yn groes i unrhyw gyfraith, boed o fewn y DU neu’n rhyngwladol;
3.5.atgynhyrchu, dyblygu, copio, gwerthu,ail-werthu neu fanteisio ar unrhyw ran o’r Gwasanaeth, nac ar ddefnydd o’r Gwasanaeth neu fynediad i'r Gwasanaeth at ddiben masnachol;
3.6 gasglu neu storio gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr eraill y Gwasanaeth.
3.7 Rydych yn deall y gall prosesu technegol a throsglwyddo’r Gwasanaeth gynnwys (a) darllediadau dros rwydweithiau amrywiol; a (b) newidiadau i gydymffurfio ac addasu i ofynion technegol rhwydweithiau neu ddyfeisiau cysylltiol.
4. PERCHENOGAETH A DEFNYDD O HAWLIAU PERCHENOGOL
4.1 Rydym yn berchen ar yr holl hawlfraint ym mhob un o nodweddion y Gwasanaeth (gan gynnwys, heb gyfyngiad, dyluniad y wefan, yr holl logos, testun a graffeg ar y wefan), ag eithrio nodweddion o'r fath sydd yn eiddo i drydydd person (gan gynnwys Busnesau Twristiaeth).
4.2 Rydym hefyd yn berchen ar yr holl feddalwedd a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth ac eithrio meddalwedd o'r fath sy'n eiddo i drydydd person ('y meddalwedd').
4.3 Byddwn yn caniatáu i chi gael trwydded a hawl bersonol, nad oes modd eu trosglwyddo ac nad ydyn nhw’n unigryw i chi (neu is-drwydded yn achos hawliau trydydd person sydd wedi eu rhoi i ni ar drwydded) i ddefnyddio côd gwrthrych y Meddalwedd er mwyn mynd at y feddalwedd, ar yr amod nad ydych yn gwneud hyn (nac yn caniatáu i drydydd person wneud chwaith): copio, addasu, creu gwaith deilliadol, ôl-beiriannu, ol-adeiladu neu fel arall yn ceisio darganfod unrhyw gôd ffynhonnell o’r Feddalwedd neu werthu, neilltuo, is-drwyddedu, caniatáu diddordeb mewn neu fel arall trosglwyddo unrhyw hawl yn y Feddalwedd.
5. Indemniad
5.1 Rydych yn llawn gytuno i indemnio a chynnal yr indemniad a’n cadw ni neu unrhyw un o'n swyddogion, gweithwyr, asiantau, is-gontractwyr a chwmnïau cysylltiedig yn ddiniwed rhag ac yn erbyn unrhyw a phob costau, hawliadau, colledion, difrod neu atebolrwydd a threuliau (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) a wnaed gan unrhyw drydydd person mewn unrhyw awdurdod o ganlyniad i neu yn dilyn eich defnydd o'r Gwasanaeth, eich cysylltiad i'r Gwasanaeth, neu os byddwch yn torri’r Telerau Defnyddwyr neu yn torri hawliau trydydd person mewn unrhyw ffordd arall.
6. ADDASU, ATAL A THERFYNU’R GWASANAETH
6.1 Rydym ni, a ni yn unig, yn cadw'r hawl ar unrhyw adeg, ac o bryd i'w gilydd yn unol â’n disgresiwn a gyda rhybudd neu heb rybudd, i addasu neu derfynu, dros dro neu'n barhaol, y Gwasanaeth (neu unrhyw ran ohono) neu eich defnydd unigol o'r Gwasanaeth. Rydych yn cytuno na fyddwn yn atebol i chi neu i unrhyw drydydd person am unrhyw addasu, atal neu derfynu’r Gwasanaeth.
6.2 Mae ein hawliau o dan yr adran hon yn ychwanegol, a heb ragfarn yn erbyn ein holl hawliau ac atebion eraill.
7. DEFNYDD A STORIO
7.1 Rydych yn cytuno nad oes gennym unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am ddileu neu fethiant i storio unrhyw negeseuon a chyfathrebiadau eraill a gynhelir neu a drosglwyddir gan y Gwasanaeth. Rydych yn cydnabod ymhellach ein bod yn cadw'r hawl i newid yr arferion cyffredinol hyn ac i gyfyngu ar unrhyw adeg, yn ôl ein dewis ni, gyda rhybudd neu heb rybudd.
8. DOLENNI TRYDYDD PARTI
8.1 O bryd i'w gilydd efallai y bydd y Gwasanaeth yn cynnwys cysylltiadau i wefannau a weithredir gan eraill. Mae'r cysylltiadau hyn yn cael eu darparu er hwylustod i chi yn unig, ac yn cael eu darparu gennym ni neu gan Ddefnyddwyr eraill y Safle. Nid oes gennym reolaeth dros y gwefannau ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau o'r fath. Drwy gynnig y cysylltiadau yma i chi, nid ydym yn awgrymu na datgan cefnogaeth i ddim a gynhwysir ar wefannau nag mewn perthynas o unrhyw fath gyda gweithredwyr gwefannau o'r fath. Rydym hefyd yn benodol yn eithrio atebolrwydd am unrhyw ddeunydd anghywir, tramgwyddus, difenwol neu anweddus sy'n ymddangos ar y safleoedd hyn.
9. YMWRTHODIAD GWARANTAU
9.1 Byddwch yn benodol yn deall ac yn cytuno mai eich cyfrifoldeb chi eich hun yw eich defnydd o'r Gwasanaeth. Mae'r Gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar sail 'fel ag y mae' a 'fel sydd ar gael'. Yn benodol, nid ydym yn cynnig unrhyw warant o unrhyw fath o ran y Gwasanaeth, boed yn ddiamwys neu'n oblygedig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlygedig o fod yn werthadwy, o fod yn addas at ddiben penodol neu dorri amodau.
9.2 Yn benodol, nid ydym yn gwneud unrhyw warant y bydd (i) y Gwasanaeth yn cwrdd â'ch gofynion, (ii) y Gwasanaeth yn ddi-dor, yn amserol, yn ddiogel neu heb wallau, (iii) y canlyniadau a geir trwy eich defnydd o’r Gwasanaeth yn gywir neu’n ddibynadwy, (iv) ansawdd unrhyw gynnyrch, gwasanaethau, gwybodaeth, neu ddeunydd arall a brynwyd neu a gafwyd gennych drwy'r Gwasanaeth yn cwrdd â'ch disgwyliadau, (v) unrhyw gamgymeriadau yn y feddalwedd yn cael eu cywiro a (vi ) y Safle yn rhydd o unrhyw feirws neu nad yw’r Safle yn cynnwys unrhyw beth a allai fod â phriodweddau dinistriol.
9.3 Mae unrhyw gynnwys sy’n cael eu lawrlwytho neu unrhyw gynnwys o fath arall a gafwyd drwy ddefnydd o’r Gwasanaeth yn cael ei gymryd ar eich doethineb a’ch cyfrifoldeb eich hun ac rydych yn deall a chytuno y bydd gyda chi gyfrifoldeb personol am unrhyw ddifrod i'ch system gyfrifiadurol neu am golled data sy’n dilyn o lawrlwytho unrhyw gynnwys o'r fath.
10. CYFYNGIAD ATEBOLRWYDD
10.1 Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod o gwbl sy'n deillio o'ch defnydd o'r Gwasanaeth gan gynnwys iawndal am golli data, colled mewn elw neu golled sy'n gysylltiedig â defnydd o, neu berfformiad, y Gwasanaeth, neu am yr oedi neu anallu i ddefnyddio'r Gwasanaeth neu am gynnyrch neu wasanaethau gwybodaeth a gafwyd drwy’r Gwasanaeth. Hyn ac eithrio’r ffaith nad oes dim o dan y Telerau Defnyddwyr yn cyfyngu ein hatebolrwydd am unrhyw ddatganiad twyllodrus neu niwed personol neu farwolaeth a achosir gan ein hesgeulustod.
11. GWAHARDDIADAU A CHYFYNGIADAU
11.1 Mae rhai awdurdodaethau yn gwrthod eithrio rhai gwarantau neu gyfyngu ar atebolrwydd am niwed digwyddol neu ganlyniadol. O ganlyniad, efallai na fydd rhai o'r cyfyngiadau uchod yn berthnasol i chi.
12. CYFFREDINOL
12.1 Gellir anfon hysbysiadau i chi naill ai trwy e-bost neu bost cyffredin. Gall y Gwasanaeth hefyd ddarparu hysbysiadau o newidiadau i’r Telerau Defnyddwyr neu faterion eraill, trwy arddangos hysbysiadau neu ddolennau i hysbysiadau yn gyffredinol ar y Gwasanaeth.
12.2 Os byddwn yn diystyru achos o dorri’r Telerau Defnyddwyr gennych, fyddwch chi ddim yn ystyried bod hynny’n golygu diystyru unrhyw achos pellach o dorri’r amod hwnnw neu unrhyw amod arall.
12.3 Bydd y Telerau Defnyddwyr yn rheoli eich mynediad i’r Gwasanaeth ac eithrio unrhyw delerau ac amodau eraill.
12.4 Os bydd unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau Defnyddwyr hyn neu ran o ddarpariaeth yn cael ei dirymu am ba reswm bynnag, bydd y geiriau tramgwyddus yn cael eu dileu a bydd gweddill y darpariaethau yn parhau mewn grym ac effaith llawn.
12.5 Mae eich hawliau a’ch rhwymedigaethau o dan y Telerau Defnyddwyr yn bersonol i chi ac rydych yn ymrwymo i beidio â neilltuo, rhentu ar brydles, codi tâl, is-drwyddedu, neu fel arall yn trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau o'r fath yn gyfan neu'n rhannol, nac yn honni y gallwch wneud hynny.
12.6 Does dim yn y Telerau Defnyddwyr yn creu unrhyw hawl neu fudd-dal ar gyfer unrhyw drydydd person o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Person) 1999. Nid oes angen Caniatâd i unrhyw drydydd person ddiddymu neu ddiwygio (ar unrhyw adeg) y Telerau Defnyddwyr a fydd yr un amrywiad i'r Telerau Defnyddwyr nac unrhyw gytundeb atodol neu ategol at y Telerau Defnyddwyr yn creu unrhyw hawliau trydydd person o'r fath, oni nodir yn benodol mewn cytundeb o'r fath gennych chi a ninnau. Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw hawl neu gywiriad sydd ar gael i drydydd person sy'n bod neu ar gael ar wahân i’r Ddeddf honno.
12.7 Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled a ddioddefwyd gennych chi ac ni fyddwn yn cael ein hystyried yn ddiffygiol o ran unrhyw oedi neu fethiannau mewn perfformiad oherwydd yr hyn sy'n deillio o weithredoedd neu achosion y tu hwnt i'n rheolaeth resymol neu o unrhyw weithredoedd Duw, gweithredoedd neu reoliadau unrhyw lywodraeth neu uwch-awdurdod cenedlaethol neu oherwydd nad yw ein gweinyddion yn gweithio.
12.8 Mae penawdau adran wedi cael eu cynnwys er hwylustod yn unig ac ni fyddant yn cael eu hystyried yn rhan o’r Telerau Defnyddwyr nac yn cael eu defnyddio i ddehongli’r Amodau hynny.
12.9 Bydd y Telerau Defnyddwyr yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr ac rydym ni a chi yn cytuno i ymostwng i awdurdod Llysoedd Cymru a Lloegr a neb arall.
13. DEHONGLI
13.1 Bydd y geiriau ac ymadroddion canlynol yn cael yr ystyron canlynol yn y Telerau Defnyddwyr:
Ni:
Llywodraeth Cynulliad Cymru (ar ran y Cymoedd – ymgyrch gan Blaenau'r Cymoedd, y Cymoedd Gorllewinol a Phartneriaeth y Cymoedd) a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac yn gweithredu o bencadlys a leolir ar hyn o bryd yn: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd CF99 1NA
Chi: Chi yr unigolyn sy'n dymuno defnyddio'r Gwasanaeth



