Michael Hill, Blaenrhondda
5th May 2010
Categories: Messages - Archive
Michael Hill, Blaenrhondda
R’yn ni wedi ymgartrefu ym Mlaenrhondda nawr ers wyth mis. Roedd yn rhaid i mi symud o Gaint er mwyn bod yn agosach i’r teulu, ac mae lle'r ydym yn byw ar hyn o bryd mor hyfryd, gan eich bod yn medru edrych allan o’r ffenest ar y mynyddoedd o’ch blaen – rhywbeth sy’n donig wrth godi ben bore. Roedd hefyd rhaid i mi symud oherwydd cyflwr fy nghalon ond mae fy nheulu wrth eu boddau gyda’r ardal. Yr hyn dw i wastad yn hoffi am Gymru a’r hyn sy’n ei wneud more braf i fyw yma yw’r cefn gwlad hyfryd, felly dw i’n gobeithio ein bod yn gallu hyrwyddo’r hyfrytwch yma i bawb a phopeth.