Chris

Pam ydych chi’n caru’r Cymoedd?

Diolch am gymryd yr amser i ddweud wrthym pam eich bod yn caru'r Cymoedd. Cwblhewch y wybodaeth isod ac yna cliciwch y botwm 'Anfon':
Gorffennwch eich neges mewn llai na 40 o eiriau
*
*
*
*
Hoffwn dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf o'r Cymoedd
Bookmark and Share

Clipiau Fideo

Yn ogystal â’r holl negeseuon a dderbyniwyd eisoes (cadwch nhw i ddod!), rydym hefyd wedi bod ma’s yn nhrefi a phentrefi ein rhanbarth. Cliciwch ar y clip isod i ddarganfod beth oedd gan bobl i’w ddweud pan ofynnon ‘Pam ydych chi’n caru’r Cymoedd?’. Mae yna hefyd ffilm grêt o’r ardal.

Beth sy’n cael ei ddweud mor belled

May 2010

  • Steve, Cefn Coed19th May 2010

    Steve, Cefn Coed

    Y golygfeydd o glwb golff Merthyr Tudful yw’r golygfeydd gorau’n y DU. Gwelaf amlinelliad gogoneddus Bannau’r Brycheiniog wrth chwarae i gyfeiriad y gogledd, a golygfeydd o’r Cymoedd wrth chwarae i gyfeiriad y De.

  • Tommytaz, Aberdar19th May 2010

    Tommytaz, Aberdâr

    Rwy’ wedi teithio i bedwar ban y byd .... wedi gweld y da a'r drwg. Ond teg yw edrych tuag adre’. Y Cymoedd yw calon De Cymru. Aer glân, golygfeydd gwych, pobl gyfeillgar, beth arall a fynnwch chi?

  • K Jones, Blaenafon5th May 2010

    K Jones, Blaenafon

    Rwy’ wedi fy ngeni a’m magu’n y cymoedd, felly hefyd fy ngŵr a’r ddwy ferch. Mae ein treftadaeth a’n gwreiddiau wedi’u meithrin yn nhirwedd hardd Torfaen.

  • Michael Hill, Blaenrhondda5th May 2010

    Michael Hill, Blaenrhondda  

    R’yn ni wedi ymgartrefu ym Mlaenrhondda nawr ers wyth mis. Roedd yn rhaid i mi symud o Gaint er mwyn bod yn agosach i’r teulu, ac mae lle'r ydym yn byw ar hyn o bryd mor hyfryd, gan eich bod yn medru edrych allan o’r ffenest ar y mynyddoedd o’ch blaen – rhywbeth sy’n donig wrth godi ben bore. Roedd hefyd rhaid i mi symud oherwydd cyflwr fy nghalon ond mae fy nheulu wrth eu boddau gyda’r ardal. Yr hyn dw i wastad...

  • Pam, Surrey5th May 2010

    Pam, Surrey

    Dwi'n dwli ar Aberpennar. Roeddwn ni'n treulio'r gwyliau yn nhy Nain yn 27 Stryd Allen.

    Parsons oedd cyfenw mam, ac rwyn falch iawn o fod yn hanner Cymraes. Dim ond ambell i waith dwi wedi dychwelyd, ond mae'r atgofion yn llifo nol.

  • David, Tirphil5th May 2010

    David, Tirphil

    Roedd cymoedd fy mhlentyndod yn llwyd, nawr maent yn wyrdd. Roedd bywyd yn anodd, nawr ceir manteision i bawb sydd eu hangen.

April 2010

  • Tony, Abertyleri20th Apr 2010

    Tony, Abertyleri

    Cefais fy ngeni yn 11 Duke Street, Abertyleri ond fe symudais i Awstralia 50 mlynedd yn ôl. Rwy’n aml yn mynd ar y wefan i weld lle y cefais fy ngeni a pha mor hyfryd ydyw... bydda i’n dychwelyd un diwrnod i weld y lle dros fy hun. Cariad wrth bawb yn Nghampbelltown, Sydney, Awstralia.

     

  • Maxine, Merthyr Tudful20th Apr 2010

    Maxine, Merthyr Tudful

    Rwy’ wrth fy modd yn dod yn ôl adre’ pan fydda i wedi bod i ffwrdd, ac wrth ddychwelyd, wastad yn gwerthfawrogi’r hyn sydd gennym yn y Cymoedd lawer mwy!

  • Pat Hamblin, Suffolk20th Apr 2010

    Pat Hamblin, Suffolk

    Cefais fy anfon i fyw yng Nglyn Rhedynog yn 1940, ymhell i ffwrdd o’r bomio yn Llundain. Ni ddaeth fy rhieni gyda mi. Roeddwn yn bedair oed. Mae'r cariad a gofal a gefais gan Ayah a Dai Davies yn 39 Frederick St yn fy nghalon o hyd ac fe fyddwn wrth fy modd i glywed gan unrhyw un oedd yn eu hadnabod. Fy enw bryd hynny oedd Pat Brown. Gadewais ardal Glyn Rhedynog yn union cyn i’r rhyfel ddod i ben ond ro’n i’n dychwelyd bob blwyddyn ar gyfer y...

March 2010

  • Michael, Abertyleri31st Mar 2010

    Michael, Abertyleri

    Y golygfeydd bendigedig o amgylch fy nhref, Abertyleri, y golygfeydd o ben Mynydd Arail, y parc, yr ŵyl blues ardderchog a’r ysbryd cymunedol. Cymru am byth.

  • Reggie, Fflorida28th Mar 2010

    Reggie, Fflorida

    Cefais fy ngeni yn y Cymoedd yn y 30au ond rwy’ bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau, yn Fflorida, ac wedi byw yma am y rhan fwyaf o’m mywyd - ond rwy’n dal i fod yn Gymro i’r carn – a dyna fydda i am byth.

  • Philip, Tredegar27th Mar 2010

    Philip, Tredegar

    Cefais gyfle unwaith i dywys grŵp o feicwyr mynydd ar daith ac fe’n stopiwyd ger y Six Bells gan gyfarwyddwr ffilm o Galiffornia a ddywedodd “chi’n lwcus i gael hyn oll am ddim – dw i’n gorfod talu $10,000 a rhentu hofrennydd i fwynhau golygfeydd fel hyn!”.

  • Sean, Tredegar27th Mar 2010

    Sean, Tredegar

    Y Cymoedd oedd y man cychwyn i nifer o bethau – y chwyldro diwydiannol, y GIG ayb

February 2010

  • J Joseph, Rhymni16th Feb 2010

    J Joseph, Rhymni

    Un o’r rhesymau rwy’ wrth fy modd â’r cymoedd yw’r hanes bendigedig a geir ymhobman, boed tref neu fynydd, meini hirion, ffwrneisi, meysydd brwydr, llwybrau cerdded – mae’n wych.

     

  • J Lovesey, Risga16th Feb 2010

    J Lovesey, Risga

    O bob cyfeiriad yn fy nhŷ, rwy’n gallu gweld bryniau a choedwigoedd gwyrddion. Mae gennym deithiau cerdded hyfryd ac mae pobl y cymoedd yn gynnes ac yn gyfeillgar. Rwy’ hefyd yn credu taw cymunedau bychain sydd orau.

     

  • F Edmunds, Porth16th Feb 2010

    F Edmunds, Porth

    Y bryniau gwyrdd yn yr haf, dail yr hydref, dyfroedd clir afonydd y cymoedd a’r bywyd gwyllt cynyddol. Gyda gwelliannau’n digwydd ar ein priffyrdd a chilffyrdd, a datblygiadau newydd o ran ysbytai a meddygfeydd, mae’r Rhondda’n gwella bob dydd. 

  • J Davies, Rhydaman15th Feb 2010

    J Davies, Rhydaman

    Y cymoedd yw’r lle gorau i fyw – mae’r golygfeydd yn hardd a’r bobl yn gyfeillgar. Oes angen teithio dramor pan mae gennym bopeth fan hyn?

     

  • M Brain, Tredegar15th Feb 2010

    M Brain, Tredegar

    Rwy’n hoff o’r cymoedd drwy gydol y flwyddyn. Ond pan ddaw’r hydref a’i liwiau hardd a’r dail yn syrthio o’r coed, wel – dyna pryd wy’n wir falch i ddweud mod i’n ferch o’r cymoedd.

     

  • H Short, Cymer15th Feb 2010

    H Short, Cymer

    Y bobl. Mae pawb yn nabod pawb, ac os oes gennych broblem, mae wastad help llaw ar gael. Os oes angen siwgr arnoch, dim ond curo ar ddrws eich cymydog sydd angen gwneud. Dyma beth sydd ar goll o’n trefi.

     

  • S Davies, Gelli, Pentre14th Feb 2010

    S Davies, Gelli, Pentre

    Rwy’n hoff iawn o weithio yn fy alotment, yn tyfu ffrwythau a llysiau blasus tra’n edrych ar olygfeydd hyfryd o’r mynyddoedd.

     

  • R Harper, Blaengwynfi14th Feb 2010

    R Harper, Blaengwynfi

    Symudais i’r cymoedd oherwydd y golygfeydd trawiadol, ac fe sylweddolais cyn hir fod y bobl yr un mor arbennig. Wrth i’r tymhorau newid, felly y mae’r lliwiau, ac mae pob dim yn well fyth diolch i’r awyr iach yma.

     

  • Helen, Ystalyfera13th Feb 2010

    Helen, Ystalyfera

    Y cymoedd gwyrddlas a’r awyr iach. Mae hyd yn oed gweld arwydd ‘Cymru’ wrth groesi’r ffin yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol.

     

  • R Gardiner, Gwaun Bedw13th Feb 2010

    R Gardiner, Gwaun Bedw

    Mae hanes Cwm Rhondda wedi ei wreiddio yn y diwydiant glo - mae dros 50 o byllau’n yr ardal – felly, mae ymweliad i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda yn hanfodol– yno, gallwch weld sut mae pwll glo yn gweithio.

     

  • B Thomas, Pontllanfraith12th Feb 2010

    B Thomas, Pontllanfraith

    Dw i ‘di treulio llawer i ddiwrnod diddorol a phleserus yn mynd am dro ar hyd llwybrau cerdded y Taf a Sirhowy.

  • J Davies, Abercynon12th Feb 2010

    J Davies, Abercynon

    Mae’r bobl sydd yma yn gyfeillgar ac mae mynediad hawdd i nifer o lefydd ar heol, rheilffordd neu awyren. Mae gennym ganolfan chwaraeon a llawer o gyfleusterau eraill, yn ogystal â chlwb a thîm rygbi arbennig o dda.

     

  • M Williams, Y Clun, Castell-nedd12th Feb 2010

    M Williams, Y Clun, Castell-nedd

    Rwy’n hoffi lliwiau’r coed diri yn yr hydref, a’r llefydd arbennig i ymweld â hwy, yn cynnwys Rhaeadrau Melin Cwrt ac Aberdulais. Mae ‘na ddigonedd o heddwch a llonyddwch i gael yn y Cymoedd.

     

  • R Jones, Tonypandy12th Feb 2010

    R Jones, Tonypandy

    Yma mae fy nghartref, fy mhen, fy nghalon! Fy ngorffennol, fy mhresennol, fy nyfodol! Fy mywoliaeth, fy iard chwarae, fy mhleser! Hir oes i’r Cymoedd!

     

  • Joe, Pont-y-pŵl11th Feb 2010

    Joe, Pont-y-pŵl

    Mae’n bleser mawr gen i gerdded Camlas Mynwy a Brycheiniog, ac i fwynhau’r golygfeydd arbennig o Ddyffryn Wysg.

     

  • R Hartland, Abertridwr11th Feb 2010

    R Hartland, Abertridwr

    Rwy’n hoffi pa mor gyfeillgar yw’r bobl yn y Cymoedd. Ble bynnag fyddwch chi yn fy nhref enedigol, p’un a ydych yn cerdded neu ar fws, bydd rhywun yn siwr o aros i gael sgwrs. 

  • Davina, Pontardawe11th Feb 2010

    Davina, Pontardawe

    Beth wy’n ei hoffi fwyaf am y Cymoedd yw taw dyma yw ‘nghartref - dw i’n methu dychmygu byw’n unman arall. 

  • A Williams, Fen Coed, Merthyr Tudful11th Feb 2010

    A Williams, Fen Coed, Merthyr Tudful

    Rwy’n caru’r ffaith bod yr iaith Gymraeg dal yn fyw yn y Cymoedd, gyda nifer yn dal i frwydro drosti.

  • Elizabeth Prothero, Rhymni10th Feb 2010

    Elizabeth Prothero, Rhymni

     Rwy’ wedi byw yn Llundain ers chwe blynedd ond credwch chi fi, pan dw i’n dweud “Teg yw edrych tuag adre’”, mae’r ‘adre’ yna ‘nôl yng Nghwm Rhondda! Ble arall fyddai’n medru cystadlu â’r olygfa drawiadol yr o’n i’n arfer ei chymryd yn ganiataol pan yn fachgen?

  • John Jones, Nantymoel10th Feb 2010

    John Jones, Nantymoel

    Symudais i’r Cymoedd ar ôl priodi . Rwy’n hoff iawn o’r lle am yr un rhesymau a fynegwyd yn nifer o’r sylwadau eraill. Fodd bynnag, hoffwn i petai pobl yn cydnabod bod yna gymoedd eraill heblaw y Rhondda i’w darganfod!

     

  • Ruth, Gilfach10th Feb 2010

    Ruth, Gilfach

     

    Mae’r teithiau cerdded ar hyd yr afonydd a’r camlesi, gan edrych mas am bysgod a’r crëyr lleol, yn arbennig o hardd. Mae’r golygfeydd o’r bryniau a’r mynyddoedd yn drawiadol – allwn i ddim byw mewn ardal fflat. Mae ein hanes cloddio yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo!

     

  • Dave, Pontypridd10th Feb 2010

    Dave, Pontypridd

    Pan adewais y cymoedd i fynd i’r brifysgol, roedd yr olygfa o fy hen ystafell wely yn hollol ddi-liw – y toeau a’r tomenni. Nawr, pan fyddai’n mynd ‘nôl getre’, mae pob dim yn goediog, yn wyrdd ac yn bictiwr o deils lliwgar.

     

  • Colin Samuel, gynt o’r Coed Duon10th Feb 2010

    Colin Samuel, gynt o’r Coed Duon

    Roeddwn i’n byw yn y cymoedd am 23 mlynedd cyn symud i ffwrdd, ac rwy’n dal i golli’r bryniau gwyrdd, y bobl a’r oerfel. Rwy’ bellach yn byw yng ngorllewin Awstralia.

     

  • Kath, Pontardawe9th Feb 2010

    Kath, Pontardawe

    Mae cerdded i fyny llethrau hardd, gwyrdd a chreigiog ein mynyddoedd serth yn cyfleu’r teimlad o freuder ac ansicrwydd bywyd, ac yn helpu dyn i werthfawrogi’r hyn sydd ganddo hyd yn oed yn fwy.

     

  • D Tovey, Pentre9th Feb 2010

    D Tovey, Pentre

    Wrth ddychwelyd i fyw yn Ne Cymru yn ddiweddar,dw i ‘di sylwi ar yr holl welliannau sylweddol sydd wedi digwydd yn yr ardal dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae gennym hanes diwydiannol diddorol sy’n haeddu cael ei gynnal, ysbryd cymunedol cryf a phobl gyfeillgar o’n hamgylch.

  • E Harding, Tredegar 9th Feb 2010

    E Harding, Tredegar

    Dw i’n hoffi’r golygfeydd hardd a’r bobl leol gyfeillgar.

     

  • A Bush, Aberpennar9th Feb 2010

    A Bush, Aberpennar

    Rwy’n falch iawn o weld adferiad ac adfywiad safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yn y cymoedd – mae’r safleoedd bellach yn sefyll yn falch yn erbyn ein cefndiroedd tymhorol o fynyddoedd a choedwigoedd hardd ac afonydd glân a gloyw.

     

  • M Morgan, Tonypandy9th Feb 2010

    M Morgan, Tonypandy

    Mae gennym drigolion cyfeillgar, golygfeydd godidog, gwasanaethau rheilffordd da a chanolfan chwaraeon ardderchog yr ydym yn ei fynychu bum gwaith yr wythnos – mae’n costio nesaf i ddim i ymuno.

     

  • Barbara Pittard, Aberdâr8th Feb 2010

    Barbara Pittard, Aberdâr

    Rwy’n hoffi’r ffordd y mae awyrgylch a lliwiau’r mynyddoedd yn newid yn gyson. Mae Abertawe, Caerdydd, Merthyr, Rhondda a llawer o lefydd eraill diddorol gerllaw. Mae’n amhosib bod yn ddiflas tra’n byw yn y cymoedd. Does dim angen teithio dramor pan mae’r fath harddwch o’ch amgylch yn barod.

  • Brian Backhouse, Caerffili8th Feb 2010

    Brian Backhouse, Caerffili

    Rwy’ wrth fy modd â’r golygfeydd yn ein cwm, ac yn mwynhau’r ffordd y mae’r lliwiau’n newid o dymor i dymor drwy gydol y flwyddyn.

     

  • M Jones, Risga8th Feb 2010

    M Jones, Risga

    Rydym yn hoff o gerdded ar lannau’r afon Ebwy, ac yn hoff iawn o gyfeillgarwch pobl o’r Cymoedd. 

  • Raymond Jones, Glyn Ebwy8th Feb 2010

    Raymond Jones, Glyn Ebwy

    Y pleser o gael ein geni yma, yr ysbryd cymunedol sy’n bodoli a’r awyr agored sy’n ein hamgylchynu - hyn oll o fewn cyrraedd hawdd. Beth arall a fynnoch?

  • Ann Bayliss, Aberpennar8th Feb 2010

    Ann Bayliss, Aberpennar

    Y bobl, y golygfeydd godidog a’r teimlad o berthyn ac o ymfalchïo yn ein hanes. Fe symudom yma yn y 70au cynnar ac r’yn ni wedi mwynhau gwylio’r ardal yn troi’n wyrdd unwaith eto.

     

  • L Davies, Hirwaun7th Feb 2010

    L Davies, Hirwaun

    Mae byw yma’n ei wneud yn hawdd i mi fynd â fy merch fach i weld rhaeadrau Bannau Brycheiniog neu unrhyw un o barciau gwledig yr ardal.

     

  • Linda Harris, Heolgerrig7th Feb 2010

    Linda Harris, Heolgerrig

    Mae llawer o dirnodau’r cymoedd bellach yn cael eu hadnewyddu, ac mae angen eu gweld i’w gwerthfawrogi. Daeth fy ngŵr yma ar ymweliad gwaith 17 mlynedd yn ôl - ac mae e dal yma hyd heddiw!

  • Ian Sullivan, Heolgerrig6th Feb 2010

    Ian Sullivan, Heolgerrig

    Mae byw fel rhan o gymuned agos yn dal i greu teimlad o gynhesrwydd y tu mewn i chi.

     

  • M Wiggins, Castell-nedd6th Feb 2010

    M Wiggins, Castell-nedd

    Mae cymoedd Cymru - o’r mynyddoedd i’r dyffrynnoedd - mor arbennig i mi. Mae ‘na gyffyrddiad hudolus i’r golygfeydd yma, ac fe fyddem yn colli hwn pe tawn i’n symud i ffwrdd.

     

  • Margaret Bull, Glyn Ebwy5th Feb 2010

    Margaret Bull, Glyn Ebwy

    Rwy’ wrth fy modd yma, wedi fy amgylchynu gan yr holl fynyddoedd a’r golygfeydd trawiadol – yn enwedig y golygfeydd dros y rhostiroedd - yr eira yn y gaeaf, machlud yr haul, lliwiau yr hydref, bywyd gwyllt yn yr ardd, gwiwerod, adar, tylluanod, cadnoid, ieir bach yr haf a’r bobl!

     

  • K Davies, Capel Hendre5th Feb 2010

    K Davies, Capel Hendre

    Mae cymaint o hanes  yn y bryniau a’r cymoedd o amgylch Rhydaman, ac mae’n costio fawr ddim i brofi llawer ohono.

     

  • M Davies, Y Coed Duon5th Feb 2010

    M Davies, Y Coed Duon

    Y treftadaeth a’r cefngwlad. Mae na ddigonedd o lefydd i ymweld â hwy, mae’r golygfeydd yn hyfryd, ac yn well na dim, mae gennym rygbi penigamp!

  • Mr and Mrs Williams, Pont-y-pŵl5th Feb 2010

    Mr and Mrs Williams, Pont-y-pŵl

    Rydym wrth ein bodd yn medru cerdded y cŵn a mwynhau’r golygfeydd arbennig yr un pryd, ond hefyd yn mwynhau cael pob dim mor agos i gartref, cael pobl gyfeillgar yn gymdogion a chael pori mewn llawer o siopau hen hyfryd.

     

  • Roydon Vickers, Gwaun Cae Gurwen4th Feb 2010

    Roydon Vickers, Gwaun Cae Gurwen

    Mae’n hyfryd bod yng nghanol yr adar a’r defaid, ac mae’r golygfeydd hardd ar garreg fy nrws yn aruthrol. Rwy’n mwynhau gweld bywyd gwyllt yr ardal ac yn hoff o sgwrsio gyda ffermwyr lleol yn ystod fy nheithiau cerdded dyddiol - haul neu law – sy’n helpu fy nghyflwr arthritig.

     

  • L Williams, Gilfach Goch4th Feb 2010

    L Williams, Gilfach Goch

    Sut mae esbonio’r teimladau sydd gennych tuag at y cymoedd mewn 40 o eiriau? Yn sicr, mae ‘na harddwch, ond yn fwy pwysig y mae’r bobl. Does unman arall yn y byd lle mae calonnau’r bobl yr un mor fawr â’r mynyddoedd sy’n eu hamddiffyn.

     

  • Jacqueline Parsons, Machen3rd Feb 2010

    Jacqueline Parsons, Machen

    Cyfeillgarwch y bobl sy’n fy mhlesio i. Mae gan ein cefngwlad gymaint i’w gynnig a chymaint o harddwch naturiol ar garreg y drws, yn cynnwys teithiau cerdded ac atyniadau treftadol. Oes rhaid mentro ymhellach?

     

  • Jean Willmott, Pontllanfraith3rd Feb 2010

    Jean Willmott, Pontllanfraith

    Rwyf wedi byw yn y cymoedd ar hyd fy oes, ac mae’r golygfeydd drwy gydol y tymhorau amrywiol cystal ag unrhyw le arall yn y byd. Pobl y Cymoedd yw’r pobl mwyaf cyfeillgar erioed, gyda synnwyr digrifwch arbennig.

  • C Hughes, Tonypandy3rd Feb 2010

    C Hughes, Tonypandy

    Cefais fy ngeni yn y Rhondda ac rwy’ wedi byw yma byth ers hynny. Cefais blentyndod hapus iawn yma. Rwy’n caru’r golygfeydd a chynhesrwydd y bobl, a does unman arall yn y byd yr hoffwn fyw. 

  • C Parker, Pont-y-pŵl2nd Feb 2010

    C Parker, Pont-y-pŵl

    Mae golygfeydd hardd a hanes diddorol yn mynd law yn llaw yn y Cymoedd. Mae ymwelwyr yn derbyn croeso cynnes yn ein cefn gwlad a’n trefi. Rwy’n arbennig o hoff o’r marchnadoedd traddodiadol Fictoraidd sy’n llawn gweithgaredd ac yn llawn werth ymweliad.

     

  • S Curry, Abercwmboi2nd Feb 2010

    S Curry, Abercwmboi

    Y golygfeydd gwyrdd, cyfoethog, cyfeillgarwch y bobl a’r teimlad o glydwch a chynhesrwydd o fyw yn y Cymoedd sy’n fy mhlesio i. Rwyf wedi teithio’r byd i gyd, ond allwn i ddim byw yn unrhyw le arall ond yma.

     

  • D Jones, Cwmllynfell2nd Feb 2010

    D Jones, Cwmllynfell

    Yr afon yn sibrwd wrth lifo, y gwynt yn chiwbanu, a harddwch y mynyddoedd – mae’r holl brydferthwch yma’n codi ein calonnau. D’yn ni byth am adael ein cwm.

     

  • G Mordecai, Maesteg1st Feb 2010

    G Mordecai, Maesteg

    Mae byw yn Nyffryn Llynfi fel cwtsho lawr dan flanced gynnes. Tra mod i’n byw yma, rwy’n cerdded yn ôl troed fy nhad a fy nhadcu. Allwn i ddim byw yn unrhyw le arall. Mae’r Cymoedd yn llawn hud.

  • V Davies, Castell-nedd1st Feb 2010

    V Davies, Castell-nedd

    Nid wyf yn Gymro, ond dw i’n falch iawn fy mod wedi penderfynu byw yma. Mae gennych y môr, yr arfordir, dinasoedd, bryniau, mynyddoedd, caeau, afonydd, rhaeadrau a golygfeydd arbennig yma ar garreg y drws.

     

  • Gail Rees, Treharris1st Feb 2010

    Gail Rees, Treharris

    Cynhesrwydd y bobl, boed yn ifanc neu’n hen - cymdogion a ffrindiau yw’r cyntaf i roi help llaw pan fydd angen, ac mae eu drysoedd bob amser ar agor am ddisgled neu sgwrs.

     

January 2010

  • Cindy Winstanley, Aberafan31st Jan 2010

    Cindy Winstanley, Aberafan

    Mae’r ardal mor heddychlon, ac felly mae unrhyw bryderon yn raddol ddiflannu yng nghyd-destun ein mynyddoedd a’n cymoedd hardd.

     

  • Kelvin Went , Abertyleri30th Jan 2010

    Kelvin Went , Abertyleri

    Mae’r awyr iach yma’n fendigedig, a phan fo’r tywydd yn hyfryd, does unman gwell yn y byd i gyd. Y pleser o gael clywed ehedydd yn canu ac arogli grug gwyllt - dyna yw’r Cymoedd.

  • Daniel Griffiths, Garnant29th Jan 2010

    Daniel Griffiths, Garnant

    Yr harddwch sydd gennym ar garreg y drws, yr amrywiaeth o natur a geir drwy gydol y flwyddyn ac agosrwydd cymunedau’r Cymoedd.

     

  • A Griffiths, Aberdulais28th Jan 2010

    A Griffiths, Aberdulais

    Dw i a fy nheulu yn byw mewn rhan hardd o’r wlad sy’n darparu amgylchedd diogel a thawel i fagu plant, gyda llwybrau cerdded hyfryd o’n cwmpas.

     

  • Kathryn, Y Coed Duon27th Jan 2010

    Kathryn, Y Coed Duon

    Agosrwydd at amrywiaeth o gyfleusterau i blesio pawb - golygfeydd hardd i gerddwyr yng Nghwmcarn, a sinema, siopau a bwytai yn Nantgarw. Mae rhywbeth yma i bawb.

  • Graham, Merthyr Tudful26th Jan 2010

    Graham, Merthyr Tudful

    Pobl arbennig o siriol a golygfeydd trawiadol - lle gwych i fyw. Ble arall fyddech chi’n medru cyrraedd copa Pen-y-Fan ben bore a bod nôl ar gyfer brecwast?

  • Donna Thomas, Aberdâr25th Jan 2010

    Donna Thomas, Aberdâr

    Y teimlad o berthyn. Dyma lle’r wy’ fod i fyw – yn agos at fy nheulu, fy ffrindiau a phobl sydd â’u traed ar y ddaear. Mae’r cymoedd yn rhan o fy nhreftadaeth a fy mhersonoliaeth. Mae’n gartref i mi.

  • V Parry, Abercraf24th Jan 2010

    V Parry, Abercraf

    Rydym wrth ein bodd gyda harddwch yr ardal, y bobl gyfeillgar a’r llu o lefydd arbennig i ymweld â hwy.

     

  • Nick Butler, Heolgerrig14th Jan 2010

    Nick Butler, Heolgerrig

    Y golygfeydd arbennig, lliwiau hydrefol y coed, teithiau cerdded a llwybrau beicio. Mae gennym gyfleusterau hamddenol gwych, ac wrth gwrs, mae’r croeso yn un cynnes iawn!

     

  • R Lewis, Castell-nedd13th Jan 2010

    R Lewis, Castell-nedd

    Y llwybrau coedwig, yr afonydd, y rhaeadrau, y bywyd gwyllt, yr hen adeiladau sy’n dal i sefyll, y blodau gwyllt, y coed, y llonyddwch a’r teimlad o ddychwelyd at natur.

     

  • L Morgan, Abercarn13th Jan 2010

    L Morgan, Abercarn

    Rwy’n 72 erbyn hyn, ac wedi mwynhau gwylio’r cymoedd yn dychwelyd i’w harddwch naturiol dros y blynyddoedd. Mae’r bobl sydd heb ymweld â’r ardal ers amser maith wedi eu syfrdanu gan yr harddwch sydd yma bellach.

     

  • R Drinkwater, Pont-y-pŵl13th Jan 2010

    R Drinkwater, Pont-y-pŵl

    Rwy’n caru’r teimlad arbennig o gymuned sy’n unigryw i gymoedd Cymru, ac o fewn tafliad carreg i’ch drws ffrynt, gallwch fwynhau peth o’r cefn gwlad a’r golygfeydd gorau’n y byd.

     

  • C Baker, Cynonville12th Jan 2010

    C Baker, Cynonville

    Rwy’n mwynhau newid graddol y tymhorau - o’r gwanwyn i wyrddion meddal yr haf, lliwiau llachar yr hydref ac eira achlysurol y gaeaf – ac mae hyn oll yn rhad ac am ddim. Beth arall a fynnoch? Dewch yma, a pheidiwch ag anghofio eich camra!

     

  • H Battenbough, Pontardawe12th Jan 2010

    H Battenbough, Pontardawe

    Mae’r cymoedd – ac mae ‘na lawer ohonynt - yn werth eu gweld. Heb amheuaeth, mae pobl y dinasoedd yn siwr o fod yn eiddigeddus ohonom!

  • A Crabb, Treorci11th Jan 2010

    A Crabb, Treorci

    Y bobl. Gofal teulu a ffrindiau. Hanes y cymoedd yn y gymuned loafaol hon. Y mynyddoedd gyda’u golygfeydd panoramig – er enghraifft, gallwch edrych lawr a gweld clwb Rygbi Treorci’n chwarae gêm.

     

  • Patrick Connor, Abertyleri11th Jan 2010

    Patrick Connor, Abertyleri

    Mae’r dreftadaeth sydd gennym erbyn hyn yn ganlyniad i waith caled ein menywod a’n dynion yn niwydiannau amrywiol y cymoedd. Roedd y croeso a dderbyniais ar ôl dychwelyd o’r fyddin heb ei ail. Mae’r golygfeydd cystal ag unrhywbeth arall yn y byd!!

     

  • C Bull, Twyn11th Jan 2010

    C Bull, Twyn

    Rwy’n hoff o’r ffordd o fyw hamddenol, y teimlad o gymuned a’r teimlad o lonyddwch pur o gopâu’r bryniau sy’n cynnig golygfeydd arbennig dros y cymoedd.

     

  • Celia Davies, Y Coed Duon11th Jan 2010

    Celia Davies, Y Coed Duon

    Rydym yn perthyn yma. Fel plant, roeddem yn chwarae ar y tomenni glo ac yn credu bod pob afon yn llifo’n ddu. Mae hyn i gyd wedi newid bellach ac mae gennym gefn-gwlad arbennig, afonydd glân yn llawn pysgod, a mynyddoedd a chymoedd i grwydro. Rydym yn dal i berthyn yma.

     

  • A Getgood, Bedwas10th Jan 2010

    A Getgood, Bedwas

    Golygfeydd hardd i’w mwynhau tra’n cerdded y ci neu’n reidio’r beic mynydd. Rwy’ wrth fy modd â’r ysbryd cymunedol cyfeillgar yma.

     

  • Clive Fisher, Aberdâr10th Jan 2010

    Clive Fisher, Aberdâr

    Rwy’n hoffi’r cymysgedd o ddiwylliannau rhanbarthol sydd wedi cyfuno dros y ganrif ddiwethaf i ffurfio ysbryd cymunedol unigryw yn y cymoedd. Yn dawel bach yn cael eu hadfer i’w harddwch gwreiddiol, y cymoedd yw calon ac enaid y genedl!

     

  • Nick Smith, Nantyglo10th Jan 2010

    Nick Smith, Nantyglo

    Roedd cerdded uwchben llynnoedd Cwmtyleri ar Ŵyl San Steffan gyda cherddwyr Blaenau Gwent yn brofiad grêt. Haul cryf, isel, awyr iach a lliwiau arbennig – gwyrddion llachar, cochion a brown tywyll – does dim i guro’r fath brofiad!

     

  • Jane, Ynysowen10th Jan 2010

    Jane, Ynysowen

    Rwy’n caru byw yma oherwydd bod y bobl mor gyfeillgar, y lingo’n wahanol, y golygfeydd mor arbennig, ac oherwydd bod yna fynediad hawdd i gymaint o lefydd eraill. Pan newid rhywbeth mor arbennig?

     

  • Jonathan Powell, Pentwyn Crumlin10th Jan 2010

    Jonathan Powell, Pentwyn Crumlin

    Ble bynnag rwy’n mynd yn y byd, mae’r dywediad ‘teg yw edrych tuag adref’ yn fy atgoffa o’r cymoedd - mae cael bod gartref yn crwydro’r cwm yn atgoffa dyn o’r pwysigrwydd o fwynhau’r hyn sydd gennym.

     

  • Mike Rogers, Risga9th Jan 2010

    Mike Rogers, Risga

    Y coed ar lethrau’r cymoedd, y pentrefi yng nghanol y coed, a’r cymunedau o fewn y pentrefi - dyna i gyd sydd angen yw gwên a ‘shw mae’ ac fe fyddwch yn rhan ohonynt. 

  • D Roberts, Cymer9th Jan 2010

    D Roberts, Cymer

    Rwy’n caru’r bobl ac yn hoff iawn o’r golygfeydd trawiadol, yn enwedig o ben Mynydd Bwlch - dw i’n aml yn mynd i fyny yna ar fy meic modur. Yn wreiddiol o’r Rhondda, dw i bellach yn byw yn Aberafan, lle dw i’n mwynhau’r golygfeydd gwych ar garreg y drws.

  • G Durston, Abercanaid9th Jan 2010

    G Durston, Abercanaid

    Bydd yr eogiaid yn neidio’n yr Afon Taf cyn hir. Mae’r awyr yn iach, y corau’n canu nerth eu pennau, a’r ŵyn yn gorffwys ar y mynydd yn aros am y wawr – hyfryd.

     

  • Adrienne Lewis, Rhymni9th Jan 2010

    Adrienne Lewis, Rhymni

    Y bobl gyfeillgar, a’r golygfeydd hyfryd. Does dim byd gwell na thro o gwmpas llyn Bryn Bach ar ddiwrnod braf. Rwy’n wreiddiol o Gaerdydd, ond wedi bod yma ers dros 38 mlynedd ac yn anhebygol o fynd yn ôl.

     

  • J Price, Brynmawr9th Jan 2010

    J Price, Brynmawr

    Mae mwy a mwy o warchodfeydd natur yn cael eu creu, ac mae pobl bellach yn medru mwynhau eu cynefinoedd lleol a diogelu bywyd gwyllt ar yr un pryd.

     

  • R Sullivan, Castell-nedd8th Jan 2010

    R Sullivan, Castell-nedd

    Mae’r cymoedd yn fendigedig. Mae gan goedwig Afan deithiau cerdded arbennig a llwybrau beicio sy’n addas i’r teulu cyfan – gallech fynd â phicnic a threulio rhai oriau neu ddiwrnod cyfan yno.

  • D Thomas, Abercraf8th Jan 2010

    D Thomas, Abercraf

    Fy hoff bethau i? Cefn gwlad hardd Cwmtawe Uchaf, yr awyr iach a’r golygfeydd arbennig.

     

  • Susan, Treharris8th Jan 2010

    Susan, Treharris

    Ar wahân i’r ysbryd cymunedol sy’n wirioneddol wych, mae tirlun ein cefn gwlad garw ond trawiadol heb ei ail. Dyma yw ein treftadaeth ni, wedi ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

     

  • Gloria Serne, Cimla7th Jan 2010

    Gloria Serne, Cimla

     

    Y teimlad cryf o gymuned – fel mewnfudwyr wedi ymddeol o Lundain, cawsom ein derbyn i’r gymuned bron ar unwaith – yn anffodus, ni fyddai’r un peth yn digwydd yn Llundain dyddiau ‘ma.

     

  • Mary Lush, Blaenllechau7th Jan 2010

    Mary Lush, Blaenllechau

    Rwy’n caru’r bobl gyfeillgar, y teithiau cerdded hir, yr heddwch a’r tawelwch.

     

  • Lesley Addis, Blaenafon6th Jan 2010

    Lesley Addis, Blaenafon

    Rwy’n hoff o ysbryd cymunedol cryf a chefnogol trefi a phentrefi’r cymoedd, y teithiau cerdded hyfryd ar garreg y drws, y mynediad hawdd ar heol neu reilffordd i rannau helaeth o’r DU, a threftadaeth ddiddorol a balch ein cenedl.

     

  • J Hughes, Pentre6th Jan 2010

    J Hughes, Pentre

    Y niwl ar hyd y bryniau yw’r cyfan dw i’n ei weld rhan fwyaf o’r amser, one mae gwylio’r coed yn siglo’n yr awel o amgylch tŷ disymud yn bictiwr o lonyddwch pur. Bywyd syml a siriol – dyna i gyd sydd angen arnom.

     

  • G Tamlin, Castell-nedd5th Jan 2010

    G Tamlin, Castell-nedd

    Mae’r cymoedd yn ardal o harddwch eithriadol lle mae’n bosib mwynhau pob agwedd o fywyd hamdden. Mae rhywbeth i bawb yma, beth bynnag eich ffordd o fyw.

     

  • Doreen Francis, Aberpennar5th Jan 2010

    Doreen Francis, Aberpennar

    Golygfeydd hyfryd ar draws y tymhorau - Swistir bach yn yr eira, tapestri o liw yn yr hydref a byd o wyrddni’n y gwanwyn. Byddai’n rhaid i mi deithio’r byd i gyd i ddod o hyd i’r math o olygfeydd dw i’n gallu mwynhau’n y cymoedd.

     

  • Gillian Richards, Ynysowen5th Jan 2010

    Gillian Richards, Ynysowen

    Boed yn heulog neu’n ddiflas, mae harddwch ein mynyddoedd yn ymestyn allan fel pâr o freichiau croesawgar. 

  • S Parry, Blaenau5th Jan 2010

    S Parry, Blaenau

    Bob dydd, rwy’n agor y drws ffrynt ac yn tybio pa mor hir fydd hi tan i mi flino ar yr olygfa. Rwy’n gwybod yr ateb – byth! Rwy’n mwynhau’r fraint o wylio tirlun difrodedig yn araf ddychwelyd i’w harddwch naturiol trawiadol.

     

  • Karen, Portsmouth4th Jan 2010

    Karen, Portsmouth

    Rwy’n caru’r ardal a’r bobl gymaint fel fy mod yn symud yno. Mae harddwch naturiol yr ardal yn siarad dros ei hunan, ac mae’r bobl yn onest ac yn gynnes, ac wastad yn barod i gael sgwrs.Rwy’n difaru nad oeddwn wedi penderfynu symud i’r Cymoedd ynghynt.

  • Sharon, Treherbert3rd Jan 2010

    Sharon, Treherbert

    Mae Radio Rhondda yn cael ei redeg gan y gymuned ar gyfer y gymuned. Mae gennym deimlad o ymroddiad ac o weithio fel tîm ac rydym yn cyd-dynnu fel un teulu mawr. Rydym yn gwerthfawrogi’r gymuned ac yn browd iawn o’n henw oherwydd ein bod yn caru’r Rhondda.

     

  • Julie, Abernant2nd Jan 2010

    Julie, Abernant

    Y bobl gyfeillgar a chroesawgar, y cefn gwlad a’r tirlun prydferth, y llwybrau cerdded iachus hir, fy nhreftadaeth – mae pob un o’r pethau hyn yn cyfrannu at bam yr wy’n caru’r Cymoedd.

  • Kevin, Porth1st Jan 2010

    Kevin, Porth

    O fewn 5 i 10 munud, gallwch fod ar ben mynydd o unrhyw gyfeiriad.

     

December 2009

  • S Holmes, Trethomas31st Dec 2009

    S Holmes, Trethomas

    Golygfeydd trawiadol ac amrywiaeth o deithiau cerdded, ymwybyddiaeth o hanes - o ffyrdd i greiriau Rhufeinig - trawsnewidiad sensitif yr hen byllau glô i mewn i barciau gwledig ac amrywiaeth gwych o fywyd gwyllt i fwynhau.

  • Wayne, Pendyrus30th Dec 2009

    Wayne, Pendyrus

    Yn sefyll ar esgair y Fach a’r Rhondda Fawr y mae cymuned gyda thrysorau cudd a stori werth ei dweud. Mae’r haenau cyfoethog o hanes y mae Penrhys yn ei gynnig , yn cynnwys tystiolaeth o feddianiad cyn-hanesyddol, Rhufeinig a Normanaidd, ffynnon gysegredig, y Capel Mynachaidd,  cerflun y Forwyn a’i Phlentyn ac yn fwy diweddar Pentref Penrhys.

     

  • Jessica, Nantymoel29th Dec 2009

    Jessica, Nantymoel

    Rwy’n hoff iawn o’r Cymoedd oherwydd ble bynnag yr ydych, mae ‘na wastad olygfeydd braf, arogl gwych a hanes diwydiant glô yr ardal o’ch cwmpas. Mae’r ysbryd cymunedol yn anhygoel a does dim yn gallu curo’r morâl. Mae byw yn y Cymoedd yn golygu llawer i mi - rwy’n teimlo’n ddiogel oherwydd ‘mod i’n nabod y rhan fwyaf o’m cymdogion. Efallai nad oes gennym y siopau dillad neu’r clybiau nos,...

  • Deb, Y Blaenau28th Dec 2009

    Deb, Y Blaenau

    Sut allech chi beidio â mwynhau byw’n y Cymoedd?? Cerdded allan o’r drws cefn ac yn syth i fyny i’r mynyddoedd heb orfod delio gyda thraffig, adeiladau tal a phobl! Edrych i fyny a gweld awyr nid mwrllwch ac yn well na dim, mwynhau’r teimlad o berthyn i rywbeth arbennig. 

  • V Evans, Maesteg27th Dec 2009

    V Evans, Maesteg

    Y tirlun amrywiol a thrawiadol, y bobl gyfeillgar, cyfuniad o drefi hen a newydd a’r gofal parhaol o bobl hen ac ifanc. Ni fyddwn yn dymuno byw’n unman arall.

  • A Davies, Lower Brynaman26th Dec 2009

    A Davies, Lower Brynaman

    Y teimlad o hunaniaeth – y teimlad o berthyn i’ch cymuned eich hun.

     

  • R Heskins, Castell-nedd24th Dec 2009

    R Heskins, Castell-nedd

    Harddwch llwyr y tirlun - yr awyr iach, y llonyddwch, nentydd dŵr ffres ac afonydd ar gyfer pysgota, a defaid yn pori gerllaw. Mae’r holl deithiau cerdded yn wych ar gyfer eich iechyd a’ch lles.

  • D Evans, Aberfan23rd Dec 2009

    D Evans, Aberfan

    Cyfeillgarwch y cymunedau sy’n cyfuno â’r hanes a’r cyfleusterau presennol i greu lle delfrydol i fyw ac i weithio, ac yn ennyn balchder.

     

  • Jacqueline Thomas, Tredegar22nd Dec 2009

    Jacqueline Thomas, Tredegar

    Y teimlad cartrefol chi’n ei gael wrth deithio yn ôl adre’ ar ddiwedd y dydd neu ar ôl gwyliau, Cymeriadau diri yr ardal a’r straeon y maent yn eu hadrodd. Mae pobl y Cymoedd yn onest ac yn gyfeillgar.

     

  • Jean Parry, Pont-y-pŵl21st Dec 2009

    Jean Parry, Pont-y-pŵl

    Mae’r Cymoedd yn ardal unigryw gyda golygfeydd arbennig o fynyddoedd, ac mae pobl y Cymoedd yn garedig ac yn hael i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’n bleser ac yn fraint i fyw yma a dw i byth eisiau symud.

  • G Edwards, Hirwaun20th Dec 2009

    G Edwards, Hirwaun

    Mae fy nghartre’ i rhyw ddwy filltir o Benderyn lle mae’n bosib gweld sut mae bragu a gwneud ein whisgi Cymreig gwych, a hynny yng nghanol ardal hyfryd Bannau Brycheiniog.

  • Lorna Thurston, Cwmaman19th Dec 2009

    Lorna Thurston, Cwmaman

    Yr ysbryd cymunedol hen ffasiwn nad yw wirioneddol yn bodoli mewn nifer o lefydd bellach, ond sydd dal yn gryf yn y Cymoedd.

     

  • Wayne Thomas, Ystradgynlais19th Dec 2009

    Wayne Thomas, Ystradgynlais

    Rwy’n hoff iawn o’r mythau a’r chwedlau sy’n rhan o dirlun y cymoedd. Mae’r bobl i gyd yn ddiddorol ac mae’n rhaid i ni drysori a dathlu eu straeon yn y dyfodol.

     

  • M Roberts, Risga18th Dec 2009

    M Roberts, Risga

    Y ffyrdd golygfaol gyda nifer o lynnoedd a theithiau cerdded. Rwy’ wrth fy modd â’r harddwch a’r llonyddwch llwyr sy’n ein cwmpasu bob amser ni’n mynd yno, ac rwy’n falch iawn o’n treftadaeth arbennig.

     

  • A Pearson, Maesteg17th Dec 2009

    A Pearson, Maesteg

    Rwy’n hoffi pa mor wyrdd yw’r cwm, yn llawn o obaith a phobl yn gweithio – llawer ohonynt yn arwyr lleol.

  • A Morgan, Bryn16th Dec 2009

    A Morgan, Bryn

    Y cefn gwlad hardd, y cestyll, y treftadaeth, cyfeillgarwch y bobl a’r rygbi.

     

  • Margaret Jenkins, Pontardawe15th Dec 2009

    Margaret Jenkins, Pontardawe

    Rwy’n hoff iawn o gerdded ci fy mab ar hyd glan camlas Pontardawe, mae’r mynyddoedd yn hardd, mae’r llyn mor dawel ac mae gweld y cŵn yn rhedeg yn rhydd yn wirioneddol hyfryd.

     

  • Sue Parry, Blaengarw14th Dec 2009

    Sue Parry, Blaengarw

    Gan fod yr ardal bellach yn dychwelyd i’w harddwch naturiol mae’n bosib gweld pa mor drawiadol yw’r Cymoedd a’r mynyddoedd, ac rwy’n cofio pam mod i a fy ngŵr yn teimlo mor freintiedig i gael byw yma.

  • Rinus, Porth13th Dec 2009

    Rinus, Porth

    Yr awyr iach, ffres na chewch chi mewn unrhyw ddinas. Yn enwedig ar fore clir o aeaef.

     

  • Sarah-Jayne, Abertyleri12th Dec 2009

    Sarah-Jayne, Abertyleri

    Rwy’ wrth fy modd â’r Cymoedd oherwydd mod i’n byw ‘na.

     

  • Wilmarie, Porth12th Dec 2009

    Wilmarie, Porth

    Allan o’r holl lefydd rwy’ wedi teithio iddynt yn y byd, trigolion y Cymoedd yn bendant yw’r mwyaf cyfeillgar a chroesawgar.

     

  • A Powell, Bargoed12th Dec 2009

    A Powell, Bargoed

    ‘Does unman fel nhw yn y byd, mae’r Cymoedd yn unigryw. Mae’r hanes a’r harddwch a’r teimlad o berthyn wastad gyda ni. Rwy’ wedi treulio fy mywyd yma fel fy nhad a’i gyndeidiau ef.

     

  • Paul Stephens, Treherbert11th Dec 2009

    Paul Stephens, Treherbert

    Symudais i’r Cymoedd o Loegr chwe mlynedd yn ôl. Cyfeillgarwch y bobl sydd wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol.

     

  • A Williams, Aberpennar11th Dec 2009

    A Williams, Aberpennar

    Clydwch y Cymoedd. Mae un yn cael teimlad o berthyn i gymuned, yn hytrach na’r teimlad o fodoli mewn eangderau diderfyn. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn agosatrwydd y cymunedau eu hunain a chynhesrwydd a chroeso y bobl.

     

  • David, Tonypandy11th Dec 2009

    David, Tonypandy

    Mae’n bleser gweld gweithwyr trenau’r Cymoedd yn gwenu bob bore wrth groesawu cwsmeriaid ar y trên.

     

  • G Whitwell, Trebannws10th Dec 2009

    G Whitwell, Trebannws

    Yr amgylchoedd hyfryd, y bobl gyfeillgar a’r tawelwch sydd mor hawdd dod o hyd iddo. Y lleoliad, y mynyddoedd, yr afonydd, y dinasoedd, y moroedd a’r pentrefi ac hefyd yr hen werthoedd hen ffasiwn sydd dal o gwmpas.

     

  • B Yousel, Blaenllechau10th Dec 2009

    B Yousel, Blaenllechau

    Nid oes unrhyw gyfoeth yn gallu prynu’r teimlad y mae’r cymoedd yn ei roi i mi bob dydd wrth i mi agor y drws ffrynt. Gall y tymor newid ond mae harddwch a chyfeillgarwch y bobl yn aros yr un fath.

     

  • L Morris, Abertridwr10th Dec 2009

    L Morris, Abertridwr

    Mae dychwelyd i’r Cymoedd fel dychwelyd adref. Rydych bob amser yn teimlo bod yna groeso ac eich bod yn perthyn.

     

  • E Adlam, Garnlydan10th Dec 2009

    E Adlam, Garnlydan

    Rwy’n caru’r llwybrau beicio mynydd a’r harddwch. Rwy’n hoff o fynd beicio mynydd neu i heicio gyda map, cael tipyn o fwyd a diod ac aros allan drwy’r dydd yn yr haf. Chewch chi mo’i well.

     

  • J Newton, Machen10th Dec 2009

    J Newton, Machen

    Y croeso cyfeillgar, y cefn gwlad bendigedig , a’r tirwedd a hanes diddorol o amgylch pob tref.

     

  • J Cossack, Treherbert10th Dec 2009

    J Cossack, Treherbert

    Cefais fy ngeni a’m magu yma ac rwy’n falch iawn i fod yn Gymro. Mae Cymru’n wlad hardd ac yn hyfryd o le i fyw a bydda’ i byth yn gadael fy ngwreiddiau yma’n y cymoedd.

     

  • S Hazell, Brynmawr10th Dec 2009

    S Hazell, Brynmawr

    Mae’n hyfryd gwylio’r cymoedd yn blodeuo allan o’r marweidd-dra a’r diflastod a fu rhai degawdau’n ôl. Gan bwyll bach maent yn newid i mewn i rywle y gall pob un ohonom fwynhau a bod yn falch ohono.

     

  • J Griffin, Cefn Golau10th Dec 2009

    J Griffin, Cefn Golau

    Yr ysbryd cymunedol, mae gan bobl yn Nhredegar wastad amser am sgwrs ac i roi help llaw. Mae yna ddigon i ymwelwyr i wneud gyda Pharc Tredegar a Pharc Bryn Bach o fewn pellter byr mewn car.

     

  • A Ward, Rhydaman10th Dec 2009

     

    A Ward, Rhydaman

    Yr olygfa o’r Mynydd Du o’n tŷ – yn ei wylio’n troi o liw i liw wrth i’r tywydd neu’r tymhorau newid.

  • I Robinson, Dyffryn Rhondda10th Dec 2009

    I Robinson, Dyffryn Rhondda

    Gyda diddordeb brwd mewn cerdded a bywyd gwyllt, mae gen i bopeth sydd angen arnaf yn Nyffryn Afan. 

  • A Shaw, Wainfelin9th Dec 2009

    A Shaw, Wainfelin

    Mynyddoedd, niwloedd, golygfeydd trawiadol Cymreig, teimlad o hanes, cerddoriaeth, celf a phobl greadigol, yr ysbryd cymunedol a chymdogion cynnes ac arbennig.

     

  • C Thomas, Tredegar9th Dec 2009

    C Thomas, Tredegar

    Rwy’n caru mynd â fy nghi, Molly, am dro ar y mynydd ac o amgylch llyn Bryn Bach.

     

  • L Morris, Abertridwr9th Dec 2009

    L Morris, Abertridwr

    Y cymunedau – mae pobl yn eich croesawu’n fynwesol ac yn gwneud i chi berthyn. A’r ffaith mod i’n gallu gweld defaid o’m ffenest!

     

  • A Davies, Glyn-nedd9th Dec 2009

    A Davies, Glyn-nedd

    Mae yna olygfeydd hardd, teithiau cerdded, afonydd a rhaeadrau, mynyddoedd, chwaraeon, corau, digon o bethau i’ch diddori, y môr a chefn gwlad i gyd o fewn pellter hawdd.

     

  • A Gough, Ton Pentre9th Dec 2009

    A Gough, Ton Pentre

    Harddwch y cymoedd, ynghyd â’u hanes a’u hysbryd cymunedol unigryw sy’n ei wneud y lle gorau i fyw heb eithriad.

  • M Wiltshire, Porth9th Dec 2009

    M Wiltshire, Porth

    Y teimlad o berthyn, o fod mewn cymuned fach. A harddwch Cwm Rhondda nawr bod y pyllau wedi cau a bobman mor wyrdd.

     

  • Laura, Aberpennar9th Dec 2009

    Laura, Aberpennar

    Mae’r diwylliant ffyniannus a geir yn y tafarndai a’r sîn gerddoriaeth danddaearol heb eu hail, gyda rhai bandiau trawiadol, llawn addewid ar fin dilyn ôl traed y Stereophonics, The Lost Prophets a’r Manic Street Preachers. Ond y peth gorau am y cymoedd yw’r trigolion didwyll, cynnes a di-lol yr wy’n falch i alw’n deulu ac yn ffrindiau.

     

  • T Kington, Porth8th Dec 2009

    T Kington, Porth

    Rwy’ wrth fy modd â’r Cymoedd oherwydd mae’r bobl mor gyfeillgar.

  • H Jones, Cwmfields8th Dec 2009

    H Jones, Cwmfields

    Rwy’n caru’r cymoedd oherwydd mae yna gymaint o gynefinoedd gwych ar gyfer adar gwyllt a bywyd gwyllt arall. Cymaint o olygfeydd godidog, a digonedd o fflora a ffawna.

     

  • D Hartshorn, Glyn Ebwy8th Dec 2009

    D Hartshorn, Glyn Ebwy

    Does dim rhaid i chi gerdded yn bell i fwynhau golygfeydd hardd y cefn gwlad gwyrdd neu’r teithiau cerdded braf trwy warchodfeydd natur ysblennydd. Mae enaid y gymuned yn bodoli ledled y pentrefi a’r trefi wrth i chi gofleidio’r hwyl a’r canu.

     

  • Carl Bilton, Pontardawe8th Dec 2009

    Carl Bilton, Pontardawe

    Y tafarndai lleol a’r bwytai amrywiol mewn pentrefi ledled y Cymoedd. Y teithiau cerdded ar hyd afonydd a chamlesi a’r digwyddiadau fel Gŵyl Werin Pontardawe, siopau bach lleol gwahanol a’r golygfeydd trawiadol.

  • S Nott, Aberpennar8th Dec 2009

    S Nott, Aberpennar

    Lliwiau newidiol y cymoedd drwy gydol y tymhorau. Pobl hapus yw pobl y cymoedd, ac mae wastad ganddynt amser i sgwrsio, hyd yn oed os mai dim ond am y tywydd.

     

  • Trevor Bartrum, Glyn Rhedynog8th Dec 2009

    Trevor Bartrum, Glyn Rhedynog

    Yr afon, y mynyddoedd, yr awyr a phopeth yn y canol. Mae’r bobl yn grêt, hen ac ifanc. Rwy’n cerdded, rwy’n edrych, rwy’n gweld. Y Cymoedd yw’r lle i fod.

     

  • A Jones, Ystradgynlais8th Dec 2009

    A Jones, Ystradgynlais

    Rwy’ wedi teithio’r byd ond nid oes lle tebyg. Mae ethos, harddwch, iaith, cyfeillgarwch a chymeriadau digyffelyb yn ei wneud yn unigryw. Hir oes i’r Cymoedd i ffynnu fel y maent eisoes wedi gwneud dros y canrifoedd drwy amseroedd da a drwg.

     

  • A Keane, Maesteg8th Dec 2009

    A Keane, Maesteg

    Corau meibion yn llenwi’r cymoedd gyda’u cerddoriaeth a’u lleisiau’n codi I fyny i’r bryniau. Y bryniau hyn sy’n gwneud fy nghwm mor arbennig. Fel y dywed y salmydd, gallaf godi fy llygaid i’r bryniau a llawenhau.

     

  • Michelle Heard, Y Blaenau8th Dec 2009

    Michelle Heard, Y Blaenau

    O gorau i fandiau pres, mae’r cymoedd yn llawn o gerddoriaeth a chanu. Y rygbi yw’r gorau o bell ffordd!

  • A Perkins, Y Blaenau8th Dec 2009

    A Perkins, Y Blaenau

    Rwy’ wrth fy modd â’r cymoedd oherwydd fy mod i’n feiciwr mynydd brwd ac mae rhai o’r safleoedd diarffordd yn rhyfeddol. Pethau na fyddech chi byth yn gweld mewn car, felly pawb i fynd allan i reidio beic!

     

  • B Wilkins, Pontllanffraith8th Dec 2009

    B Wilkins, Pontllanffraith

    Mae gennym bopeth fan hyn. Y cysur sy’n rhan o gymunedau’r cymoedd, hanes, teithiau cerdded, diwylliant, gweithgareddau amrywiol a digwyddiadau, ac eto teithiwch mewn unrhyw gyfeiriad ac o fewn yr awr mae gennych ar lan y môr, y cefn gwlad a chysylltiadau niferus i lefydd eraill yng Nghymru a thu hwnt.

     

  • W James, Ystradgynlais8th Dec 2009

    W James, Ystradgynlais

    ‘Fyddwch chi byth yn teimlo’n unig, pobl y Cymoedd yw’r bobl fwyaf  cynnes a chyfeillgar ym Mhrydain, dim ots ble chi’n mynd, i dafarn neu i glwb, bydd rhywun yn dechrau sgwrs gyda chi. Mae yna lawer o deithiau cerdded golygfaol yn agos iawn i’w gilydd ac yn llawn o fywyd gwyllt.

     

  • Angela Thomas, Melincwrt8th Dec 2009

    Angela Thomas, Melincwrt

    Y golygfeydd trawiadol a’r ysbryd cymunedol, agos.

     

  • D Prothero, Rhisga8th Dec 2009

    D Prothero, Rhisga

    Mae’r bobl yn y Cymoedd yn gofalu am ei gilydd. Mae yna glybiau a thafarndai cyfeillgar a digon i wneud. Mae yna glybiau rygbi amrywiol i’w cefnogi, llawer o glybiau bowlio a siopau lleol lle mae pawb yn eich hadnabod.

     

  • David Jenkins, Abercwmboi8th Dec 2009

    David Jenkins, Abercwmboi

    Eistedd ar lan yr afon yn gwylio’r dŵr clir yn byrlymu i mewn i’r pyllau a’r pysgod yn gwibio i mewn ac allan. Dyma yw fy nghwm heddiw, nid cwm fy ieuenctid, pan oedd glô yn frenin.

     

  • Maurice Blay, Cae Garw8th Dec 2009

    Maurice Blay, Cae Garw

    Rwy’ wedi teithio i 16 o wledydd gwahanol, o Ogledd Ewrop i’r Dwyrain Pell, yr Almaen, Malaya, ac eto heb ddod o hyd i bobl mor gyfeillgar a llefydd mor hanesyddol a hardd nag a geir yn y Cymoedd. Cymru am byth.

     

  • Margaret Thomas, Mynwent y Crynwyr8th Dec 2009

    Margaret Thomas, Mynwent y Crynwyr

    Mynediad hawdd i’r ddinas, canolfannau siopa, yn ogystal â’r arfordir mwyaf hardd a mynyddoedd anhygoel.

  • Trevor Kavanagh, Pontardawe8th Dec 2009

    Trevor Kavanagh, Pontardawe

    Gyda thywydd da – nid oes angen teithio dramor. Does ond rhaid mynd tu fas i’r drws, neu os ydych yn byw mewn tref, ychydig filltiroedd yn eich car neu feic, er mwyn dod o hyd i olygfeydd na ellir eu maeddu yn unman arall.

     

  • Sandra, Pontllanffraith8th Dec 2009

    Sandra, Pontllanffraith

    Rwy’ wedi bod yn drist yn ddiweddar oherwydd ‘mod i wedi colli fy ngwr. Ond, pan wy’n mynd am dro i ben mynydd Mynyddislwyn, rwy’n teimlo bod bywyd yn werth ei fyw, rwy’n gallu gwerthfawrogi yr harddwch, ac rwy’n teimlo’n ffodus.

     

  • Graham Clift, Dyffryn Rhondda8th Dec 2009

    Graham Clift, Dyffryn Rhondda

    Mae byw yn Nyffryn Afan yn fy atgoffa o hen ddywediad Indiaidd, “Mae yfed yn aml o’r harddwch sydd o’n cwmpas yn feddyginiaeth dda i’r enaid”. Mae’n dweud y cyfan!

     

  • Lisa Jones, Merthyr Tudful8th Dec 2009

    Lisa Jones, Merthyr Tudful

    Fy acen! Mae acen y Cymoedd mor unigryw a lle bynnag dwi'n mynd mae pobl yn gwybod o le rwy’n dod. Rwy’ wrth fy modd â’r teimlad o Gymreictod y mae acen y Cymoedd yn ei roi i mi.

  • Tony Evans, Rhymni8th Dec 2009

    Tony Evans, Rhymni

    Rwy’n fach i fod yn Gymro, yn falch o gael fy ngeni yng Nghymru ac yn falch i fyw yn nhirlun hardd y Cymoedd. Mae Cymru yr un mor hardd ag unrhyw wlad arall, felly does dim syndod bod llawer o bobl yn cwympo mewn cariad â Chymru a’i chymoedd.

  • M Rogers, Cwmfelin8th Dec 2009

    M Rogers, Cwmfelin

    Golygfeydd arbennig heb eu difetha a llwybrau cerdded amrywiol, llawer dal yn cael eu creu.

  • C Smith, Pontardawe8th Dec 2009

    C Smith, Pontardawe

    Ar wahan i gael eich trwytho yn hanes y gorffennol diwydiannol, mae yna deimlad o edrych ymlaen tuag at ddyfodol cyffrous a mentrus i’r genhedlaeth nesaf.

     

  • Janice Roberts, Penrhys8th Dec 2009

    Janice Roberts, Penrhys

    Cefais fy ngeni a’m magu yn Nhreorci. Rwy’ wrth fy modd â’r teithiau cerdded, mae’r bobl mor gyfeillgar ac mae gennym olygfeydd hardd i’w mwynhau. Mae’r rhan fwyaf o ‘nheulu wedi marw ond mae’r gweddill ohonom yn fal i fyw yma.

  • R Davies, Merthyr Tudful6th Dec 2009

    R Davies, Merthyr Tudful

    Mae yna fwy o hanes i Ferthyr nag a welir ar yr wyneb, ac mae yna hefyd harddwch i’r lle, yn enwedig yr olygfa o faes golff Cilsarnos, lle mae’n bosib gweld bob man o’i ben, o’r Bannau Brycheiniog i Drelewis.

     

  • Gwyn, Caerdydd6th Dec 2009

    Gwyn, Caerdydd

    Mae Cerddwyr Caerdydd yn hoff o fynd i gerdded yn go aml yn y Cymoedd, er mwyn gwerthfawrogi’r golygfeydd mawreddog sydd ar gael am ddim drwy gydol y flwyddyn. Rydym wrth ein bodd â’r Cymoedd.

  • Mike Fallaile, Machen5th Dec 2009

    Mike Fallaile, Machen

    Teithiwch i unrhyw fan yn y byd ond ni fyddwch yn curo’r golygfeydd o unrhyw grib uwchben cymoedd Cymru.

     

  • Andy, Manceinion5th Dec 2009

    Andy, Manceinion

    Rwy’ wrth fy modd â’r Cymoedd oherwydd mae teithio trwyddynt yn ffordd wych o fynd yn ôl i Fanceinion o Dde Cymru pan mae’r traffyrdd yn brysur, gyda golygfeydd well o lawer ar hyd y siwrne.

     

  • David Brown, Glyn Ebwy4th Dec 2009

    David Brown, Glyn Ebwy

    Rwy’n aml yn mynd i bysgota plu yng nghronfa Cwmtyleri ac yn poeni dim os nad wy’n dal unrhyw beth oherwydd bod yr olygfa yno mor drawiadol a gorffwysol. Does unman yn debyg i Gymru.

     

  • Dave Whitelock, Castell Nedd4th Dec 2009

    Dave Whitelock, Castell Nedd

    Y bobl, eu huniongyrchedd a’u bwriadau da, a'r ffordd y maent yn cadw eich traed ar y ddaear, dim ots pa mor arbennig  yr ydych chi’n meddwl  ‘y chi.

     

  • Nicola, Pont-y-pŵl3rd Dec 2009

    Nicola, Pont-y-pŵl

    Gallwch deithio o garreg eich drws i'r gwylltiroedd mewn chwinciad. Mae'n lle gwell i fagu plant, fel eu bod yn deall bod ‘na fwy i fywyd na heolydd a thai yn unig.

  • Elizabeth Weed, Y Coed Duon2nd Dec 2009

    Elizabeth Weed, Y Coed Duon

    Mae’r Cymoedd yn orlawn o anturiaethau a hwyl i’r teulu oll. Gallwch fwynhau llu o wibdeithiau gyda llwyth o lefydd lleol i ymweld â nhw.

  • Claire, Markham2nd Dec 2009

    Claire, Markham

    Pobl gyfeillgar, golygfeydd trawiadol, awyr iach pur. Mae yna deithiau cerdded arbennig, llawer i weld ac i wneud. Ro’n i arfer byw yn y ddinas ar un adeg,  ond fe fyddwn i ddim yn dymuno byw yn unman arall nawr, ar ôl byw’n y Cymoedd.

     

  • Melanie Jones, Tredegar Newydd2nd Dec 2009

    Melanie Jones, Tredegar Newydd

    Y golygfeydd hyfryd o’ch cwmpas ble bynnag yr ydych. Y rhodfeydd, y llynnoedd a’r mynediad i Draphont y Naw Bwa yn Nhredegar sy’n dangos i bawb yr harddwch sy’n y Cymoedd. Mae angen i bobl fod yn fwy ymwybodol o’r hyn sydd gan y Cymoedd i’w gynnig.

     

  • Patricia Jenkins, Llandybie 1st Dec 2009

    Patricia Jenkins, Llandybie 

    Cefais fy magu yn Nyffryn Aman, i orllewin pellaf y cymoedd, ac mae’r bobl yn gyfeillgar iawn ac yn llawn ysbryd cymunedol. Dyna pam rwy’n hoff iawn o’r ardal ac felly ddim am adael.

     

November 2009

  • R Williams, Machen 30th Nov 2009

    R Williams, Machen

    Fel plentyn, cael y mynyddoedd fel iard chwarae oedd fy hoff beth. Fel rhywun hŷn, dw i’n hoffi Côr Meibion Cwmaber am ei gerddoriaeth a’i gwmnigarwch.  

  • G Thomas, Merthyr Tudful29th Nov 2009

    G Thomas, Merthyr Tudful

    Mae tref newydd Merthyr wedi bod yn agoriad llygad ac wedi ei hail-wampio i’r graddau lle na fyddech bron yn ei hadnabod bellach. Mae’n braf iawn mynd drwyddi nawr a gweld y newidiadau. Hyfryd iawn.

     

  • J Hopkins, Brynaman Uchaf29th Nov 2009

    J Hopkins, Brynaman Uchaf

    Rwy’n caru’r ffaith bod gennym y mynyddoedd ar garreg y drws a’r môr hanner awr i ffwrdd.

     

  • David, Cendl27th Nov 2009

    David, Cendl

    Pobl ddiffuant, cyfeillgarwch go iawn - ‘dyw pobl ddim yn aros fel dieithriaid am sbel fan hyn. Mae byw yn y cymoedd fel byw gyda theulu enfawr amddiffynnol a chyfeillgar.

     

  • Deleyn, Gilfach 27th Nov 2009

    Deleyn, Gilfach

    Drwy gysylltiadau teuluol, dros y 30 mlynedd diwethaf, rydym wedi croesawu dynion a bechgyn o Ddulyn yng ngwestai a chartrefi Nelson a Gilfach ar gyfer y rygbi. Maent wrth eu bodd yn dod draw ar gyfer gemau rhyngwladol ac maent yn ein croesawu pan fyddwn ni’n mynd yno.

     

  • A Birch, Castell Nedd26th Nov 2009

    A Birch, Castell Nedd

    Mae pobl y Cymoedd yn dod ag ystyr i fywyd, wedi ei basio i lawr drwy ymdrechion y cenedlaethau. Ni’n creu dyfodol allan o'r gorffennol ac rwy’n caru cynhesrwydd y bobl sy'n dringo’r mynyddoedd ac yn dod i lawr ar yr ochr arall. Gyda'n gilydd, mae troeon bywyd yn cael eu rhannu.

     

  • John, Glyn Rhedynog 25th Nov 2009

    John, Glyn Rhedynog

    Rwy’n 82 mlwydd oed, ac wedi  fy ngeni a’m magu yn Nghwm Rhondda. Ar ôl dau ddiwrnod o wyliau heulog yn Nhenerife, fe blediodd fy ŵyr 13 oed "Dewch i ni fynd adre datcu, rwy’n colli'r mynyddoedd". Maent yn hardd.

     

  • T Pritchard, Tre-lyn 25th Nov 2009

    T Pritchard, Tre-lyn

    Dw i a fy nheulu’n caru mynd am droeon hir ar filltiroedd o lwybrau cerdded dros y mynyddoedd – mae’r golygfeydd yn drawiadol ac yn werth eu gweld.

     

  • K Roberts, Abertyleri25th Nov 2009

    K Roberts, Abertyleri

    Y bobl sy’n byw yn y Cymoedd a hanes y mannau lle rydym yn byw.  

  • Jenni, Croesyceiliog 24th Nov 2009

    Jenni, Croesyceiliog

    Nid wy’n  dod o Gymru’n wreiddiol, ond rwy’ yn caru byw yma. Mae’r camlesi, y mynyddoedd, y golygfeydd, yn odidog. Mae’r pobl o’r siort orau! Cynnes, cyfeillgar, ac mae bob amser ‘welcome in the hillside’.

     

  • N Brown, Aberpennar23rd Nov 2009

     

    N Brown, Aberpennar

    Mae'r bobl yn gofalu am ei gilydd gyda chwilfrydedd, ac os ydych yn ddieithryn maent hyd yn oed yn fwy chwilfrydig.

  • M Green, Hirwaun23rd Nov 2009

    M Green, Hirwaun

    Y cyfeillgarwch - bydd unrhyw un chi’n cwrddyd yn siwr o ddweud helo. Mae’r harddwch o’ch cwmpas i gyd - hyd yn oed yn ffyrdd cul y cymoedd byddwch yn dod o hyd i rywbeth i edrych neu syllu arno, a nawr bod y pyllau ar gau, mae gennym lendid yr Afon Taf.  

  • W Davies, Glyn Rhedynog21st Nov 2009

    W Davies, Glyn Rhedynog

    Mae fy eglwys, Eglwys Gymunedol Acts, ym Mhendyrus, Rhondda, yn helpu pobl mewn angen yn y Cymoedd ac yn dangos i bawb fod Duw yn eu caru.

     

  • Anne, Glyn Ebwy 21st Nov 2009

    Anne, Glyn Ebwy

    Os ydych yn lwcus gyda’r tywydd does dim angen mynd dramor, mae gennym bopeth sydd angen arnom. Llefydd hardd i ymweld â nhw.

  • R Hawkins, Aberpennar20th Nov 2009

    R Hawkins, Aberpennar

    Rwy’ wrth fy modd yn mynd i feicio mynydd ac mae yna gymaint o lwybrau arbennig trwy goediwgoedd diri. Mae’r golygfeydd yn wych.

     

  • S Lory, Merthyr Tudful20th Nov 2009

    S Lory, Merthyr Tudful

    Beth dw i’n ei garu  am y Cymoedd yw bod yna gymaint i’w weld yno ac mae yna lefydd darluniadwy, fe allwch fynd am droeon hir ac mae’r bobl yn gyfeillgar ac yn ddiymhongar.

  • E Weston, Caerffili 20th Nov 2009

    E Weston, Caerffili

    Er gwaethaf ei hanes trasig, mae’n lle prydferth yn llawn o bobl hyfryd. Ni fyddwn yn byw yn unman arall.

     

  • P Gwyn-Jones, Abertawe20th Nov 2009

    P Gwyn-Jones, Abertawe

    Gwylio'r adar gwyllt fel y boncathod a’r barcutiaid coch yn cylchu’n yr awyr. Hefyd, eistedd ger ein hafonydd crisialaidd a nentydd gwyllt y mynydd. Y toreth o frithyll ac eogiaid yn ein hafonydd godidog.

     

  • A Davies, Castell Nedd20th Nov 2009

    A Davies, Castell Nedd

    Ein golygfeydd syfrdanol, mae’r tir bron yn pylsio â bywyd. Y bywyd gwyllt ar flaenau eich bysedd a chyfoeth o liwiau drwy gydol y tymhorau newidiol. Y tawelwch mae pob dim yn cynnig i chi a’r teimlad o heddwch - o ddod adre’.

     

  • Enid, Maesteg19th Nov 2009

     Enid, Maesteg

    Y bobl. Maent yn gyfeillgar beth bynnag eu dosbarth, credo neu hil. Maent yn croesawu pawb i’w cymuned, gan greu awyrgylch hwyliog mewn caffis, tafarndai a bwytai fel ei gilydd.

  • A Williams, Cwmbran19th Nov 2009

    A Williams, Cwmbran

    Yr awyrgylch cyson a’r bywiogrwydd wedi eu cyfnuno â swyn Cymreig, sy’n trechu unrhyw fan arall o’r DU. Penigamp.

  • R Newman, Y Coed Duon19th Nov 2009

    R Newman, Y Coed Duon

    Mae’r cymoedd bellach yn gallu portreadu amgylchedd iachus dros ben gyda golygfeydd naturiol a phanoramig os ydych yn hoffi’r awyr agored, wedi ei gyfuno â threftadaeth a diwylliant y cymoedd, yn llawn hanes a gyda chroeso cynnes, heb ei ail.

  • J Pippen, Bargoed18th Nov 2009

    J Pippen, Bargoed

    Yr eangderau a’r rhyddid i gerdded am filltiroedd mewn amgylchoedd prydferth.

     

  • C O Byrne, Rhydaman18th Nov 2009

    C O Byrne, Rhydaman

    Y golygfeydd trawiadol a’r bobl gret! Rwy’n caru’r iaith a’r diwylliant a geir yn y cymoedd ac mae’n well o lawer gen i fyw yn y mynyddoedd na’r ddinas.

  • G Griffiths, Rhydaman18th Nov 2009

    G Griffiths, Rhydaman

    Rwy’n caru’r ffaith bod gennym y mynyddoedd ar garreg y drws a’r môr hanner awr bant.

     

  • L White, Abertyleri17th Nov 2009

    L White, Abertyleri

    Mi adewais fy ngwm yn wyth mlwydd oed ond oherwydd yr holl atgofion, doeddwn i ddim yn gallu ymgartrefu yn Lloegr. Fe ddychwelais ugain mlynedd yn ôl a gwyn fy myd bellach. Mae’n hardd.

     

  • B Damen, Aberdâr17th Nov 2009

    B Damen, Aberdâr

    Y golygfeydd, y llwybrau cerdded, y parciau gwledig, yr agosrwydd at Gaerdydd, Abertawe a dinasoedd a threfi arall ledled Cymru. Mae agosrwydd at faes awyr Caerdydd, gwasanaethau prif reilffyrdd a rheilffyrdd lleol a llawer mwy o fanteision o fyw yn y cymoedd.

  • Olivia, Cwmparc17th Nov 2009

    Olivia, Cwmparc

    Ar ôl dychwelyd o'r gwaith, mae’r tawelwch a’r arafwch yn wych. Mae’r bobl yn gynnes ac yn ddiymhongar (o fewn deng munud rydych wedi cael hanes eu bywyd) a bob amser yn barod i helpu eraill. Mae’r golygfeydd yn anhygoel. Mae cyngor RCT yn eithriadol, yn sicrhau bod biniau yn cael eu casglu ar wyliau banc a wastad yn ceisio cadw’r cymoedd yn lân o sbwriel a thipio anghyfreithlon. Mae’r prif heolydd yn hygyrch a’r heolydd...

  • P Gwyn-Jones, Abertawe17th Nov 2009

    P Gwyn-Jones, Abertawe

    Gwylio'r adar gwyllt fel y boncathod a barcutiaid coch yn cylchu’n yr awyr. Hefyd, eistedd ger ein hafonydd crisialaidd a nentydd gwyllt y mynydd. Y toreth o frithyll ac eogiaid yn ein hafonydd godidog.

     

  • Enid, Maesteg17th Nov 2009

    Enid, Maesteg

    Y bobl. Maent yn gyfeillgar beth bynnag eu dosbarth, credo neu hil. Maent yn croesawu pawb i’w cymuned, gan greu awyrgylch hwyliog mewn caffis, tafarndai a bwytai fel ei gilydd.

     

  • C O’Byrne, Rhydaman16th Nov 2009

    C O’Byrne, Rhydaman

    Y golygfeydd anhygoel a phobl grêt! Rwy'n caru’r iaith a’r diwylliant sydd yn y cymoedd ac mae’n llawer gwell gen i fyw yn y mynyddoedd na'r ddinas.

  • Mike, Glyn Rhedynog16th Nov 2009

    Mike, Glyn Rhedynog

    Y golygfeydd gwych, llwybrau beicio mynydd ardderchog, llawer o adar ysglyfaethus a'r olygfa o ‘Old Smokey’ uwchben y Fach.   

  • Rob, Pontllanffraith 16th Nov 2009

    Rob, Pontllanffraith

    Y golygfeydd gwych, y tirlun gogoneddus, ysbryd cymunedol a threftadaeth ddiddorol - ble arall fyddech chi’n dod o hyd i hyn i gyd a mwy?

     

     

  • A Davies, Castell Nedd15th Nov 2009

    A Davies, Castell Nedd

    Ein golygfeydd syfrdanol, mae’r tir bron yn pylsio â bywyd. Y bywyd gwyllt ar flaenau eich bysedd a chyfoeth o liwiau trwy gydol y tymhorau newidiol. Y tawelwch mae pob dim yn cynnig i chi a’r teimlad o heddwch - o ddod adre’.

     

  • Sue, Abertyleri15th Nov 2009

    Sue, Abertyleri

    Rwy’ wrth fy modd â’r cymoedd oherwydd cynifer y gweithgareddau dawnsio a gynhyrchir ‘ma. Mae artistiaid o bob cwr o’r DU, Ewrop ac UDA yn heidio i Abertyleri am gyfleoedd dawnsio a ddarperir gan gwmni dawns proffesiynol preswyl FFIN DANCE, sydd wedi ei leoli yn y Met. Mae o’r radd flaena’!

     

     

  • Derek, Cwmparc15th Nov 2009

    Derek, Cwmparc

    Mae gan y Cymoedd gymaint o harddwch, llwybrau cerdded diri, ac maent wedi eu trwytho yn nhreftadaeth. Oherwydd eu bod hefyd mor agos at yr arfordir treftadaeth, mae’r cymoedd yn ganolbwynt grêt i ymwelwyr ac yn lle bendigedig i fyw.

  • Clare, Caerffili14th Nov 2009

    Clare, Caerffili

    Rwy’n caru’r ysbryd cymunedol yn y Cymoedd, lle chi’n gwybod pwy yw’ch cymdogion.

  • Owen, Rhymni14th Nov 2009

    Owen, Rhymni

    Golygfeydd bendigedig, pobl hyfryd, lleoedd agored, aer ffres a glan; copâu brown moel, cymoedd gwyrddlas, tai teras a siopau cornel. Treftadaeth, hanes a gobaith yn y dyfodol; mae gan y Cymoedd bopeth!

     

  • Claire, Caerffili13th Nov 2009

    Claire, Caerffili

    Y Cymoedd... gyda'u bryniau gwyrdd hardd a throellog yn frith o ddefaid hapus gwyn, awyr iach i’w hanadlu ac i glirio’ch meddwl, ac amgylchedd iach a chadarnhaol i fyw ac i weithio ynddo.

     

  • Glyn, Cwmtyleri13th Nov 2009

    Glyn, Cwmtyleri

    Mae’r Cymoedd yn un o’r llefydd mwya’ gofalgar yn y byd. Maent yn croesawu pawb i'w cymunedau, ac rwy’n falch i fod yn fachgen o’r Cymoedd.

  • Joanne, Caerffili13th Nov 2009

    Joanne, Caerffili

    Mae cymunedau fel ein rhai ni weithiau’n methu dod o hyd i eiriau i leddfu dioddefaint eraill, ac felly’n dewis dangos ein cefnogaeth drwy roi ein dwylo yn ein pocedi a rhannu’r hyn sydd gennym gydag eraill mewn angen.

     

  • Hilary, Caerffili12th Nov 2009

    Hilary, Caerffili

    Rwy’ wrth fy modd â’r golygfeydd hyfryd a’r treftadaeth Gymreig sy’n rhan o’r Cymoedd. Hanes pur.  

  • Brian, Abercynon12th Nov 2009

    Brian, Abercynon

    Rwy’n caru’r Cymoedd oherwydd ein bod yn bobl unigryw gyda iaith ein hunain sy’n byw mewn tirlun unigryw, gyda threftadaeth heb ei hail. Pam fydden i eisiau byw yn unman arall?

     

  • Debbie, Trecelyn12th Nov 2009

    Debbie, Trecelyn

    Mae gan yr ardal rhai o’r golygfeydd hardda’ erioed, sy’n newid gyda’r tymhorau bron bob amser   chi’n mynd mas am dro, ac mae yna deimlad cryf cymunedol o hyd er bod llawer mwy o bobl bellach mas yn gweithio.

  • Jenny, Treharris 11th Nov 2009

    Jenny, Treharris

    Yn bennaf dwi’n hoff o’r bobl sydd o’m cwmpas, mae’r cefn gwlad yn hardd, ac er nad yw’r tywydd mor dda, mae hyn yn rhan o fyw yng Nghymru. Mae’r ysbryd cymunedol yn y Cymoedd yn rhagorol, a gallwch bob amser ddibynnu ar bobl i’ch helpu gydag unrhyw brosiectau. Dw i ddim eisiau byw’n unman arall.

     

  • Adam, Cwm Twrch Uchaf 11th Nov 2009

    Adam, Cwm Twrch Uchaf

    Rwy’ wrth fy modd â’r Cymoedd oherwydd, fel Sais, rwy’ wastad wedi cael croeso cynnes yma a ‘does neb o’m ffrindiau a ‘nheulu am fynd getre’ ar ôl dod i ymweld –   a phwy sy’n eu beio?

     

  • Amelia, Y Coed Duon11th Nov 2009

    Amelia, Y Coed Duon

    Mae’r Cymoedd yn cynnig rhai o’r golygfeydd mwya’ trawiadol heb eu difetha er mwynhad pawb, ond y peth mwya’ diddorol i mi yw eu hanes a ’u treftadaeth sydd dal yn amlwg mewn amryw fannau gyda digon o bethau i'w gweld a'u gwneud.

     

     

  • Val, Glyn Ebwy11th Nov 2009

    Val, Glyn Ebwy

    Pobl y Cymoedd yw'r bobl mwya’ teyrngar, cyfeillgar a gwladgarol i mi erioed gyfarfod. Rwy'n ‘ferch Cymoedd’ anrhydeddus ar ôl 17.5 o flynyddoedd ond rwy’ wastad wedi teimlo’n hollol gartrefol ac yn rhan o’r gymdeithas. Rwy’n caru pob un ohonynt.

     

  • Ann, Abertridwr11th Nov 2009

    Ann, Abertridwr

    Symudais i Ddyffryn Aber o Gernyw 5 mlynedd yn ôl ac rwy’ wedi cael fy ngwneud i deimlo’n gartrefol tu hwnt. Rwy’n caru’r Cymoedd yn eu cyfanrwydd oherwydd y bobl wych a’r golygfeydd anhygoel. Rwy’n teimlo ‘mod i wedi dod getre’!

     

     

  • Craig, Caerau 11th Nov 2009

    Craig, Caerau

    Rwy’n caru byw yn y cymoedd oherwydd bod gennych olygfeydd gwych, tawelwch pan fod angen ac mae yma lefydd braf i gerdded.

     

  • Jean, Rhiwfawr11th Nov 2009

    Jean, Rhiwfawr

    Rwy’ wrth fy modd â’r Cymoedd. I allu deffro a gweld y niwl yn clirio i ddatgelu rhai o'r golygfeydd mwya’ prydferth ac i deimlo cynhesrwydd y gymuned gyfeillgar hyd yn oed ar yr oeraf o ddiwrnodau.

     

  • Michaela, Merthyr Tudful11th Nov 2009

    Michaela, Merthyr Tudful

    Rwy’n caru’r Cymoedd am eu bod yn rhoi rhyddid i oedolion a phlant i grwydro parciau a choedwigoedd gwych drwy gydol y flwyddyn.

     

  • Mary, Abercynon11th Nov 2009

    Mary, Abercynon

    Ble arall fyddech chi’n medru ymweld â phrifddinas, trefi marchnad, trefi sirol a phentrefi glofaol, pob un gyda threftadaeth ddiwydiannol anhygoel, ond eto yn medru bod o fewn pellter cerdded i fynyddoedd heddychlon, golygfeydd trawiadol, coedwigoedd tawel a mwy? 'Y Cymoedd wrth gwrs'.

     

  • Julie, Ynysowen6th Nov 2009

    Julie, Ynysowen

    Oherwydd bod yna o hyd ‘welcome in the hillside’.

     

  • Sharon, Abertyleri6th Nov 2009

    Sharon, Abertyleri

    Mae’r golygfeydd o fynyddoedd y Cymoedd yn drawiadol a dylid eu datgan yn ardaloedd o harddwch eithriadol cenedlaethol.

  • Martin, Pontypridd 6th Nov 2009

    Martin, Pontypridd

    Mae’r synnwyr digrifwch, hyd yn oed ar yr adegau tywyllaf, o hyd yn goroesi.

     

  • Jack, Pont-y-pŵl6th Nov 2009

    Jack, Pont-y-pŵl

    Rwy’n caru agosatrwydd ein tref yn y Cymoedd, ein clwb rygbi enwog, ein mynyddoedd hardd a’n gorffennol diddorol.

     

  • Elaine, Cilfynydd6th Nov 2009

    Elaine, Cilfynydd

    Mae’r Cymoedd yn lle gwych i berthyn - yn llawn o bobl gyffredin ond gwych heb unrhyw glemau ond a’u traed ar y ddaear ac yn groesawgar o eraill. Mae’r ardal gyfan yn anhygoel!

  • Catrin, Abercarn 6th Nov 2009

    Catrin, Abercarn

    Rwy’ wrth fy modd yn byw yn y Cymoedd, maent bob amser yn edrych yn hyfryd dim ots pa adeg o'r flwyddyn. ‘Dych chi byth yn bell o wyneb cyfeillgar ac mae gennym lawer o ysbryd cymunedol. Rwy’ bob amser yn falch i ddweud o ble rwy'n dod.

     

  • Christine, Tonnau5th Nov 2009

    Christine, Tonnau

    Mae'r golygfeydd yn anhygoel ac mae'r bobl mor gyfeillgar. Symudom yma ryw bum mlynedd yn ôl, a d’yn ni byth wedi difaru am eiliad. Mae ein plant yn dweud nad ydynt am fynd i unrhyw le arall ar gyfer eu gwyliau gan fod gan y Cymoedd bopeth.

     

  • Margaret, Cwmllynfell5th Nov 2009

    Margaret, Cwmllynfell

    Rwy’n byw yn ardal Mynydd Du Cwm Tawe ac yn edrych mas o ffenest y gegin ar liwiau newidiol y mynydd. Rwy’ wrth fy modd yn byw yma - awyr iach, a golygfeydd anhygoel, beth arall sydd eisiau?

     

  • Christine, Abertyleri5th Nov 2009

    Christine, Abertyleri

    Dw i’n caru cyfeillgarwch bras y bobl – dwi’n dod adre’ o’r gwaith i weld bagiau o ffa dringo, tato a bitrwt yn hongian oddi wrth giât yr ardd a phob tro yn trio dyfalu pa un o'm cymdogion gwych y mae angen i mi ei ddiolch?

  • Debb, Llansawel 5th Nov 2009

    Debb, Llansawel

    Mae Urdd Gwehyddwyr, Nyddwyr a Lliw-wyr Tawe wedi ei leoli ym Mhontardawe ac yn casglu at ei gilydd crefftwyr o’r holl Gymoedd gan gadw crefftau hynafol ein cyndadau yn fyw ac yn iach!

  • Alun, Aberdâr5th Nov 2009

    Alun, Aberdâr

    Rwy'n byw mewn pentre’ lle mae fy nghymdogion mor gyfeillgar. Mae gennym bopeth sydd angen ar garreg y drws yn cynnwys tafarn a chlwb, canolfan gymunedol gydag ystafell TG a theithiau cerdded hardd ar hyd rhaeadrau, gyda phopeth o fewn cyrraedd i Gaerdydd ac Abertawe.

     

  • Gwilym, Caerdydd5th Nov 2009

    Gwilym, Caerdydd

    Rwy'n gyrru trenau i ennill bywoliaeth ac yn aml yn gyrru i Rymni. Mae’n   un o'r ffyrdd gorau i yrru ar ei hyd oherwydd bod y golygfeydd yn syfrdanol ac rwy'n gweld hanes yr ardal yn ddiddorol.

  • Janet, Rhisga5th Nov 2009

    Janet, Rhisga

    Pwll Penyfan yn Oakdale yw un o’m hoff lefydd i ymweld ag ef. Mae’n wych ar gyfer cerdded cŵn, mae yna ddigon o le i blant i chwarae a rhedeg o gwmpas a digon o bysgota hefyd.

     

  • Liz, Blaenafon 5th Nov 2009

    Liz, Blaenafon

    Aeth Amy Winehouse 'Back to Black', ond mae Cymoedd Cymru wedi mynd yn ôl i wyrdd - a hydref yma, i aur a choch. Mae pobl o hyd yn gofyn i ni pam wnaethom symud i Flaenafon - nad yw’n fochedd dan lwch glo? Na, mae’r Cymoedd yn hardd ac felly y mae’r bobl. Dim mwy o’r Siroedd Cartref i ni.

  • Aled, Tonteg3rd Nov 2009

    Aled, Tonteg

    Tan i mi adael Cymru, ‘doeddwn i ddim yn sylweddoli faint ro’n i’n caru’r Cymoedd – i mi, Hiraeth yw’r Cymoedd, y bobl a’u hanes.

     

  • Jon, Blaenllechau3rd Nov 2009

    Jon, Blaenllechau

    Y teimlad o gymunedau, y golygfeydd, y prosiectau cymunedol fel Parc Sglefrio gwych Glyn Rhedynog – mae hyn oll yn cyfuno i ffurfio lle gwych i fyw, i weithio ac i ymweld.

  • Kathryn, Y Coed Duon3rd Nov 2009

    Kathryn, Y Coed Duon

    Rwy’ wrth fy modd gyda’r golygfeydd hudolus o’r cestyll ar draws y cymoedd. O'r olygfa rhamantus o Gastell Coch, yn eistedd ar ochr y mynydd, i’r olygfa drawiadol o Gastell Caerffili.

     

  • Dennis, Merthyr Tudful3rd Nov 2009

    Dennis, Merthyr Tudful

    Merthyr Tudful yw fy nghartre’, fy man geni a man geni treftadaeth ddiwydiannol y genedl. Mae ganddo fynyddoedd gwyrdd a dyffrynnoedd golygfaol, gorffennol lliwgar a dyfodol disglair a chymeriadau go iawn gyda chalonnau mawr a synnwyr digrifwch. Rwy’ wrth fy modd â’r cymoedd a’u pobl.

  • Margaret, Glyn Rhedynog3rd Nov 2009

    Margaret, Glyn Rhedynog

    Rwy’n falch o gael fy ngeni a’m magu yn y Rhondda, ac yn medru ymfalchïo mewn dyffryn a drodd o fod yn wyrdd i ddu ac yn ôl eto. Mae gwir bobl y Cymoedd yn frîd ar wahân sy’n edrych yn ôl dros eu hanes gyda balchder mawr.  

  • Marilyn, Brynaman Uchaf3rd Nov 2009

    Marilyn, Brynaman Uchaf

    Mae Brynaman wedi ei hamgylchynu gan y golygfeydd mynyddig mwya’ godidog ac mae pobl Brynaman wedi’n croesawu i’w cymuned a’u calonnau sy’n deimlad hyfryd. Rydym yn teimlo ein bod wedi ‘dod adre’”.

  • John, Tonypandy3rd Nov 2009

    John, Tonypandy

    Mae’r mynyddoedd a’r cefn gwlad o fewn ein cyrraedd; a’r golygfeydd - nawr bod y rhan fwyaf o anrheithiau’r cyfnod codi glo wedi cael eu dileu - yn drawiadol. Mae yna gymaint o berlau cudd.  

  • Wyndham, Gilfach Goch3rd Nov 2009

    Mae gennym bellach un o’r Cymoedd harddaf yn Ne Cymru. Mae’r golygfeydd lan yn y mynyddoedd ac i lawr yn y dyffryn yn wych.  

  • Ros, Glyn Ebwy3rd Nov 2009

    Ros, Glyn Ebwy

    Mae gan y Cymoedd rai o'r golygfeydd a’r bobl gorau’n y byd. Ar ôl cyfnod o ddiwydiannu rydym yn awr yn cael adfywio ac mae edrych ymlaen i’r dyfodol yn gadarnhaol yn rhan o’r hyn sy’n ein gwneud yn bobl o’r Cymoedd – o hyd yn newid ac yn esblygu.  

  • Sue, Resolfen3rd Nov 2009

    Sue, Resolfen

    Y synnwyr digrifwch – mae’n wahanol i unrhyw le arall.  

  • Chris, Merthyr Tudful3rd Nov 2009

    Chris, Merthyr Tudful

    R’yn ni’n ymfalchïo yn ein gorffennol, ond yn falch bod y Cymoedd yn wyrdd unwaith eto.  

October 2009

  • Kirsty, Rhymni30th Oct 2009

    Kirsty, Rhymni

    Mae'r golygfeydd yn wych! Dw i’n credu ymhlith y gorau yn y byd. Hefyd, mae'r teimlad o gymuned yn cynhesu’r galon. Yna, mae’r hanes pwysig fel pwll glo Abertyswg a Gweithfeydd Dur Rhymni, heb sôn am Fragdy Rhymni ac Idris Davies. Rwy’n byw yn y ddinas oherwydd y Brifysgol ar hyn o bryd a dod ADRE’ yw’r peth wy’n edrych ymlaen at fwyaf ar ddiwedd yr wythnos. 

  • Gethin, Aberpennar30th Oct 2009

    Gethin, Aberpennar

    Y bryniau a'r coedwigoedd yw perl cudd y Cymoedd, mannau agored anhygoel i redeg, i reidio beic mynydd, i gerdded y ci, neu jyst i eistedd ac edrych i lawr i'r dyffryn, gan fwynhau tawelwch ac awyr iach, ac mae'r cyfan ar garreg y drws. Dyddiau dedwydd!

  • Geoff, Brithdir29th Oct 2009

    Geoff, Brithdir

    Rwy’ wedi byw yng Nghwm Rhymni am saith deg mlynedd, ac rwy'n dal i ryfeddu ar ochr y mynydd yn newid lliw gyda phob tymor sy’n pasio, dyma lle bydd fy nghalon i o hyd, allen i ddim byw’n unman arall.

  • Helen, Abernant29th Oct 2009

    Helen, Abernant

    Rwy’ wrth fy modd â’r teithiau a’r bywyd gwyllt o amgylch Abernant. Ry’ ni’n gallu cerdded ein cŵn yn yr ardal mwyaf prydferth gyda chymaint o hanes iddi. Oeddech chi'n gwybod bod gennym y twnnel hygyrch hiraf yng Nghymru, 2497 llath ohono, ac rydym yn cael gweld yr holl bethau yma am ddim.

     

  • Sharon, Treherbert29th Oct 2009

    Sharon, Treherbert

    Mae'r bobl a'r teimlad o gymuned dal yn fyw ac yn iach, rydym yn sefyll gyda’n gilydd drwy’r tew a’r tenau. Mae’r Rhondda dal yn enw i fod yn falch ohono.

     

  • Colin, Garndiffaith29th Oct 2009

    Colin, Garndiffaith

    Mae gan Dorfaen y potensial i fod - nid yn unig yn dirlun ardderchog - ond hefyd yn ardal sy’n adnabyddus am ei hanes diwydiannol, gyda nifer o safleoedd glô a hearn eto i’w harchwilio. Hefyd, mae’r amrywiaeth o fywyd gwyllt yma heb ei ail.

  • Nick, Abercarn29th Oct 2009

    Nick, Abercarn

    Y peth gorau am fy rhan i o'r dyffryn yw’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt! Mae lliwiau hydrefol y coed yn codi ‘nghalon i pan fydda’ i’n drist! Mae Mynydd Machen yn dangos y cyfan ar ei orau!

     

  • Joanne Carter, Glyn Rhedynog29th Oct 2009

    Joanne Carter, Glyn Rhedynog

    Symudon ni yma’n ddiweddar ac r’yn ni’n ei garu! Mae'r golygfeydd yn hyfryd a'r bobl wedi bod yn hyfryd tuag aton ni. Mae wir yn lle gwych i fyw.

     

  • Katie, Trebannws29th Oct 2009

    Katie, Trebannws

    Y peth gorau am y Cymoedd yw’r bobl - cymeriadau doniol â straeon gwych i’w hadrodd. Y ffordd orau o dreulio p’nawn Sadwrn yw gwylio tîm lleol yn chwarae rygbi ac yna yn ôl i'r clwb am sesiwn o ganu!

     

  • Jacqueline, Trecynon29th Oct 2009

    Jacqueline, Trecynon

    Ardal a phobl hardd ond beth am wneud mwy o’n hafonydd? Cafodd fy nhad-cu o’r Caribî groeso mawr yn ôl yn 1899, er ei fod yn un o'r ychydig lowyr oedd yn ddu uwchben y ddaear yn ogystal ag oddi tani!

     

  • Owen, Grangetown, Caerdydd29th Oct 2009

    Owen, Grangetown, Caerdydd

    Rwy'n dod o Bontypridd, ond yn byw yng Nghaerdydd oherwydd gwaith - mae ‘nghalon i’n codi bob amser pan fydda’ i’n gyrru yn ôl ar yr A470 i fynwes ddeiliog fy mhlentyndod - does dim lle gwell na Heol Sardis - cartref tîm rygbi Pontypridd - ar brynhawn Sadwrn braf, gyda gogoniant dail yr hydref a llethrau rhedynog a chreigiog Graigwen a Chymoedd y Rhondda uwchben. Gogoneddus.

     

  • Bethan, Aberpennar29th Oct 2009

    Bethan, Aberpennar

    Ysbryd dewr cymunedau’r Cymoedd yw’r hyn sy'n unigryw am yr ardal. Mae’n rhwydd iawn anghofio am yr ysbryd a balchder cymunedol, y dreftadaeth, yr hanes a’r golygfeydd hardd. Mae angen i ni weiddi’n uchel am y rhinweddau yma.

  • Katy, Phillipstown29th Oct 2009

    Katy, Phillipstown

    Rwy’n caru’r bobl, terasau troellog tai’r pyllau glo a'r teithiau cerdded gwych sydd i’w cael yn y llefydd mwya’ annisgwyl, gyda golygfeydd hardd.

  • Mary-Lou, Pontypridd29th Oct 2009

    Mary-Lou, Pontypridd

    Symudais i a ’nheulu yma o Fanceinion ym mis Mawrth 2008 a dyna’r penderfyniad gorau wnes i erioed. Mae'r golygfeydd yn anhygoel, mae'r bobl yn anhygoel, a dw i byth am adael.

     

  • Ros, Cilfriw, Castell Nedd29th Oct 2009

    Ros, Cilfriw, Castell Nedd

    R’yn ni wedi gweld cymaint o newidiadau yn y Cymoedd dros y blynydde, ond mae’r ysbryd yn parhau yn y bobl sy’n byw yma.

  • Liz, Tonyrefail29th Oct 2009

    Liz, Tonyrefail

    Ni’n lwcus iawn i gael popeth yma, hanes, golygfeydd, a’r bobl fwya’ cyfeillgar erioed. Dw i’n falch iawn o gael fy ngeni a’m magu yn y Cymoedd.

     

  • Richard, Pontypridd29th Oct 2009

    Richard, Pontypridd

    Pobl y Cymoedd yw’r adnodd naturiol mawr ola’ yng Nghymru sydd ar ôl heb ei ddefnyddio.

  • Heather, Tredegar29th Oct 2009

    Heather, Tredegar

    Ar ôl symud yma ddwy flynedd yn ôl, gallaf ddweud yn bendant fod y Cymoedd a’u pobl wedi rhoi “welcome in the hillsides” go iawn i ni.

     

  • Tom, Britannia, Porth29th Oct 2009

    Tom, Britannia, Porth

    Pan fydd dieithriaid yn mynd mas o’u ffordd i ddweud helo, dyna’r peth gorau erioed. Mae cwrteisi am ddim ac mae pobl y Cymoedd wastad yn gwrtais. Dw i wrth fy modd yma, a bachgen o’r ddinas ydw i yn wreiddiol.

  • Gareth, Bedwas29th Oct 2009

    Gareth, Bedwas

    Dyma lle mae’n ‘bytis’ i’n byw hefyd!

  • Janine, Glyn Ebwy29th Oct 2009

     Janine, Glyn Ebwy

    Dw i a fy nheulu wedi byw yn y Cymoedd erioed. Dw i ddim yn deall pam fod pobl yn lladd ar yr ardal – mae’n llawn o hen straeon a diwylliant unigryw.

  • Beth, Porth23rd Oct 2009

    Beth, Porth:

    Mae pobl y Cymoedd yn dweud eu dweud yn blwmp ac yn blaen. Does dim yn fawreddog obeutu ni.

  • Robbie, Aberdâr23rd Oct 2009

    Robbie, Aberdâr:

    Cymeriadau mawr a meddyliau chwim.

  • Rosemary, Abersychan23rd Oct 2009

    Rosemary, Abersychan:

    Mae’r cysylltiadau emosiynol yma’n unigryw. Mae pobl yn edrych ar ôl ei gilydd ac mae hyn yn golygu llawer.

  • Mike, Brynnau23rd Oct 2009

    Mike, Brynnau:

    Dw i wedi ymarfer ar gyfer triathlon am 12 mlynedd nawr. Does dim lle gwell ar gyfer ymarfer beicio a rhedeg na’r Cymoedd.

  • Ashley, Pontycymer23rd Oct 2009

    Ashley, Pontycymer:

    Mae’n lle da iawn jyst i ymlacio ac i ddianc wrth bopeth.

  • Eilleen, Trecelyn23rd Oct 2009

    Eilleen, Trecelyn:

    Ni’n rhoi ein calon a’n henaid i mewn i bopeth ni’n ei wneud.

  • Ron, Merthyr Tudful23rd Oct 2009

    Ron, Merthyr Tudful:

    Rwy’n falch i fod yn ddyn o’r Cymoedd ac mae’r hyn sydd gyda ni i’w gynnig fan hyn, yn fy nhyb i, yn unigryw. Mae’r teimlad o gymuned ac o rannu gwybodaeth i helpu eraill yn wahanol i unman arall dwi’n nabod.

  • Mavis, Pontypridd23rd Oct 2009

    Mavis, Pontypridd:

    Heblaw am harddwch y Cymoedd, eu treftadaeth sy’n fy niddori i fwya’. Mae gyda ni’r fath harddwch ar garreg y drws nawr heb orfod teithio milltiroedd.

  • James, Y Coed Duon23rd Oct 2009

    James, Y Coed Duon:

    Sefydliad Glowyr Y Coed Duon. Calon y gymuned.

  • Owen Money, Merthyr Tudful (darlledydd)23rd Oct 2009

    Owen Money, Merthyr Tudful (darlledydd):

    Mae'r bobl fwyaf serchus a hapusaf y byd yn byw yma.

  • Leanne & Tyler, Tredegar Newydd23rd Oct 2009

    Leanne & Tyler, Tredegar Newydd:

    R’yn ni’n caru’r golygfeydd a mynd â’n cŵn (Sam a Blaze) am wâc ar y mynydd.

  • Manon, Caerffili23rd Oct 2009

    Manon, Caerffili:

    Mae cael fy magu mewn ardal gyda chymaint o hanes, cymaint o olygfeydd hardd a chymaint i’wneud yn fy ngwneud yn falch.

  • Rebecca Francis-Jones, Aberdâr (cyflwynydd)23rd Oct 2009

    Rebecca Francis-Jones, Aberdâr (cyflwynydd):

    Rwy’n caru’r Cymoedd am y teimlad cryf o ysbryd cymunedol; rydym yn gweld a chlywed straeon anhygoel bob dydd yn GTFM.

  • Mark, Pontypridd23rd Oct 2009

    Mark, Pontypridd:

    Popeth sy’n enwog am Gymru mewn un man.

  • Howard, Resolfen23rd Oct 2009

    Howard, Resolfen:

    Y Cymoedd yw’r lle prydferthaf yn y byd yn fy nhyb i. Pan fyddwch chi’n dod lan i’r mynyddoedd, gallech feddwl eich bod yn y Swistir – d’yn ni ddim yn sylweddoli pa mor lwcus ydyn ni i fyw yma.

  • Keith, Treherbert23rd Oct 2009

    Keith, Treherbert:

    Does neb yn canu fel ni – rhaid taw’r ‘hwyl’ sy’n gyfrifol – neu’r cwrw!

  • Rachel, Pont-y-pŵl23rd Oct 2009

    Rachel, Pont-y-pŵl:

    Y Cymoedd, curiad calon Cymru.

  • Chris Corcoran, Pontypridd (diddanwr)23rd Oct 2009

    Chris Corcoran, Pontypridd (diddanwr):

    Mae pobl y Cymoedd yn ddiffwdan, yn garedig ac yn ddoniol ac felly’n gwneud cynulleidfaoedd comedi gwych. Yn enwedig ar ôl cwpwl o Bacardi Breezers.

  • John, Glyn Ebwy23rd Oct 2009

    John, Glyn Ebwy:

    Treftadaeth unigryw, golygfeydd hardd, pobl grêt.

  • Rachel Tresize, Cwmparc (awdur)23rd Oct 2009

    Rachel Tresize, Cwmparc (awdur):

    Rwy'n caru'r Cymoedd am eu bod yn llawn o gymeriadau sy'n berffaith ar gyfer straeon, ac mae gan bawb synnwyr digrifwch arbennig o dywyll.