Pam ydych chi’n caru’r Cymoedd?

Diolch am gymryd yr amser i ddweud wrthym pam eich bod yn caru'r Cymoedd. Cwblhewch y wybodaeth isod ac yna cliciwch y botwm 'Anfon':
Gorffennwch eich neges mewn llai na 40 o eiriau
*
*
*
*
Hoffwn dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf o'r Cymoedd
Bookmark and Share

Sut i ymgeisio

Ydych chi’n credu bod gennych dalent?

Yna anfonwch lun digidol neu ffilm fer yn dangos 'pobl, lleoedd neu fywyd gwyllt' ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn y Cymoedd er mwyn cael cyfle i ennill

Y rheolau…

1. Yn bennaf oll, mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb.  Mae'n ymwneud â mwynhau'r rhwydwaith a chael hwyl, felly beth bynnag fo'ch oedran, eich profiad neu safon eich camera rydym am i chi gymryd rhan! Os nad oes genych gamera neu gamcorder, defnyddiwch eich ffôn symudol.  Os nad oes gennych un o’r rheiny, benthycwch un eich ffrind.

2. Rhaid i luniau neu ffilmiau byr gael eu tynnu neu eu ffilmio ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn y Cymoedd;  gweler y map ar y PDF isod.

3. Rydym yn chwilio am gynigion sy'n cofnodi ysbryd ac antur eich profiad teithio o fewn y categorïau canlynol:

  • Pobl: Delweddau sy'n cofnodi eich antur unigryw gyda ffrindiau neu deulu.
  • Lleoedd: Y golygfeydd ysblennydd, y tirweddau, treftadaeth, glesni a natur, sydd i'w gweld ym mhobman ar y rhwydwaith.
  • Bywyd gwyllt: Unrhyw beth sy'n portreadu'r berthynas rhwng bywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol.  Adar, trychfilod, blodau, coed neu hyd yn oed y ci yn mynd am dro.  Rydym am weld popeth!

4. Mae angen i’r ffilmiau byr fod yn ... fyr! Dim byd mwy na dau funud o hyd os gwelwch yn dda.

5. Bydd angen i chi gael fersiwn ansawdd uchel o’ch delwedd.

Sut i ymgeisio...


Ar gyfer y ffotograffau, y cyfan sydd angen i chi wneud yw e-bostio fersiwn ansawdd uchel o’ch delwedd (72dpi a dim byd mwy nag 1MB) at oriel@calonacenaidcymru.co.uk
Byddwn hefyd angen:
1. Eich enw, eich cyfeiriad a rhif cyswllt.
2. Disgrifiad o’r ffotograff, yn cynnwys lleoliad ac enw’r llwybr ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
3. Mae angen i chi gadw fersiwn ansawdd uchel o’r ddelwedd. Bydd y ffotograffau’n cael eu beirniadu yn ôl fersiwn print ac yn cael eu harddangos o leiaf 30cm ar draws ar yr ochr hir. Os bydd eich llun yn cael ei ddewis byddwn yn cysylltu â chi er mwyn cael gafael ar y fersiwn ansawdd uchel - bydd angen i’ch delwedd fod o ansawdd da ar y raddfa hon er mwyn iddi gael ei hystyried ar gyfer y rhestr fer.


Ar gyfer ffilmiau byr, bydd angen i chi lwytho eich fideo ar YouTube a’i dagio gan ddefnyddio’r geiriau ‘Cymoedd’ a ‘Sustrans’ – ni ddylai fod yn fwy na dau funud o hyd. Yna e-bostiwch y linc at oriel@calonacenaidcymru.co.uk
Byddwn hefyd angen:
1. Eich enw, cyfeiriad a rhif cyswllt.
2. Disgrifiad o’r fideo, yn cynnwys lleoliad ac enw’r llwybr ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Y dyddiad cau yw 10 Gorffennaf

Pob lwc ac fe edrychwn ymlaen at eu derbyn!

Cliciwch yma er mwyn darllen Telerau & Amodau y gystadleuaeth