Alan

Pam ydych chi’n caru’r Cymoedd?

Diolch am gymryd yr amser i ddweud wrthym pam eich bod yn caru'r Cymoedd. Cwblhewch y wybodaeth isod ac yna cliciwch y botwm 'Anfon':
Gorffennwch eich neges mewn llai na 40 o eiriau
*
*
*
*
Hoffwn dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf o'r Cymoedd
Bookmark and Share

Digwyddiadau

Dros y 12 mis nesaf bydd yna fwy na 100 o ddigwyddiadau yn y Cymoedd, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngweithfeydd Glyn Ebwy. O 31ain Gorffennaf – 7fed Awst, bydd y safle hanesyddol yn gartref i ŵyl ddiwylliannol byd enwog Cymru lle byddwch yn gweld ac yn clywed popeth o gerddoriaeth roc gyfoes i farddoniaeth hynafol.

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys y digwyddiad Pentref Byd Eang ym Mharc Cyfarthfa ym mis Mai a Gŵyl Bedroc ym Medlinog ym mis Mehefin. Yng Ngorffennaf y mae Gŵyl Blues Abertyleri a digwyddiad Y Caws Mawr yng Nghaerffili ac ym mis Awst y mae’r ‘Big Welsh Bite’ ym Mhontypridd, Penwythnos y Brenhinoedd ym mhlasty Llancaiach Fawr a Sioe Sir Merthyr Tudful.

Digwyddiadau ‘Calon ac Enaid’ y Cymoedd

Yn ogystal â hyn, bydd nifer o ddigwyddiadau 'Calon ac Enaid' mewn trefi a phentrefi ledled y rhanbarth. A hwythau wedi eu trefnu gan gymunedau lleol bydd y digwyddiadau hyn i gyd yn dathlu popeth sy’n wych am y Cymoedd. Bydd y manylion a’r lleoliadau yn cael eu rhoi ar y wefan yn fuan, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod yn ôl cyn hir i weld beth sy’n digwydd.