Pam ydych chi’n caru’r Cymoedd?

Diolch am gymryd yr amser i ddweud wrthym pam eich bod yn caru'r Cymoedd. Cwblhewch y wybodaeth isod ac yna cliciwch y botwm 'Anfon':
Gorffennwch eich neges mewn llai na 40 o eiriau
*
*
*
*
Hoffwn dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf o'r Cymoedd
Bookmark and Share

Ffocws, Camera, Saethu!

Cofnodwch Galon ac Enaid Cymru er mwyn ennill gwobrau gwych!

Cyflwynwch ffotograff digidol neu ffilm fer sy’n dangos ‘pobl, lleoedd neu fywyd gwyllt’ ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn y Cymoedd er mwyn cael cyfle i ennill!

Mae'r haf yma o'r diwedd, a does dim ffordd well i fanteisio ar y dyddiau hir na thrwy grwydro hyd y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn Y Cymoedd.

Boed hynny ar droed neu ar gefn beic, mae Cymoedd De Cymru yn cynnwys rhwydwaith rhagorol o lwybrau di-draffig sy'n cynnig amrywiaeth, hwyl ac antur i chi, eich ffrindiau a'ch teulu i’w mwynhau.

Mwynhewch y golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd, dewch o hyd i’r amrywiaeth cyffrous o fywyd gwyllt, ymgollwch yn y parciau gwyrdd mawreddog, tra'n llosgi calorïau a chasglu digonedd o ‘filltiroedd awyr iach’.

Y gystadleuaeth …

Eleni mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed. Fel rhan o’r dathliadau mae Sustrans, yr elusen sy'n gyfrifol am y rhwydwaith, ynghyd ag ymgyrch Calon ac Enaid y Cymoedd, yn estyn gwahoddiad i chi gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon ar gyfer ffotograffau a ffilmiau byr. I gymryd rhan y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw cofnodi’r dyddiau da ar y Rhwydwaith yng Nghymoedd De Cymru ar gamera neu ffilm.

Angen ysbrydoliaeth? Cliciwch yma i lawr lwytho gwybodaeth am lwybrau cerdded a beicio yn y Cymoedd. Cliciwch yma i lawr lwytho map o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn y Cymoedd.

Y gwobrau…
Ymhlith y gwobrau gwych mae:

1 Gwyliau beicio Saddle Skeddadle i 2 (Telerau ac amodau’n berthnasol)
2 Talebau gwerth £200 ar gyfer Dare Valley Cycles yn Aberdâr a The Bicycle Doctor ym Mhontypridd
3 Arhosiad pedair noson ar gyfer hyd at 10 o bobl yn Windways Neuadd Afan, llety hunanarlwyo moethus 4* (Telerau ac amodau’n berthnasol*)
4 Golwg ar fyd cyfarwyddo: Diwrnod ar set gyda'r Cyfarwyddwr Ffilm Ryan Andrews, wrth iddo ffilmio un o'i brosiectau diweddaraf: fideo cerddoriaeth, hysbyseb deledu, neu’r ffilm hir Elfie Hopkins and the Gammons gyda Jaime Winstone.
5 Print wal cynfas 20” wrth 30” o ffotograff o'ch dewis wedi ei fframio, gwerth £150 o Colour Labs yng Nghaerffili
6 Sesiwn portreadau mewn stiwdio gan Derek G Lewis

Caiff y ffotograffau a'r ffilmiau byr buddugol eu cyhoeddi a'u harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy eleni.  Caiff rhai o'r cynigion a ddaeth yn agos i'r brig eu dangos yno hefyd, a bydd cyfle i'r cyhoedd sy'n mynd i’r ŵyl bleidleisio drostynt er mwyn ennill rhagor o wobrau.

Caiff y cynigion gorau eu defnyddio gan Sustrans i hyrwyddo'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Y beirniaid…

David Hurn, un o’r ffotograffwyr uchaf ei fri yng Nghymru ac aelod o asiantaeth fyd-enwog Magnum Photos, fydd yn arwain y panel ffotograffau. Ryan Andrews, cyfarwyddwr o Gymru sy’n prysur ennill ei blwyf, fydd yn arwain panel beirniadu’r ffilmiau byr.

Am fanylion y rheolau a sut i ymgeisio cliciwch yma

Y dyddiad cau yw 10 Gorffennaf

Pob lwc ac fe edrychwn ymlaen at eu derbyn!

Am Sustrans ...

Sustrans yw elusen cludiant cynaliadwy flaenaf y DU, yn gweithio ar brosiectau ymarferol fel y gall pobl ddewis teithio mewn ffyrdd sy’n gwneud lles i'w hiechyd a'r amgylchedd. Mae ein miloedd o gefnogwyr wedi ein galluogi ni i newid y byd gwych sydd gennym fesul milltir.  Gallwch chithau wneud hynny hefyd.  Ymunwch â'r mudiad heddiw yn www.sustrans.org.uk