Alan

Pam ydych chi’n caru’r Cymoedd?

Diolch am gymryd yr amser i ddweud wrthym pam eich bod yn caru'r Cymoedd. Cwblhewch y wybodaeth isod ac yna cliciwch y botwm 'Anfon':
Gorffennwch eich neges mewn llai na 40 o eiriau
*
*
*
*
Hoffwn dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf o'r Cymoedd
Bookmark and Share

Y Cymoedd - Calon ac Enaid Cymru

Mae pawb yn gwybod fod y Cymoedd yn llawn o bobl gynnes a bywiog, o olygfeydd gwych a phethau diddorol i'w gweld a'u gwneud. Ychwanegwch orffennol diwydiannol balch ac mae’r ardal yn llawn haeddu cael ei galw yn ‘Galon ac Enaid Cymru’. Ond rydym am dwrio’n ddyfnach a dod o hyd i’r stori go iawn.

Dyna pam yr ydym yn gofyn i bobl y Cymoedd i ddweud wrthym ‘pam ydych chi’n caru’r Cymoedd?’. Bydd yn help i ni ddatblygu stori gryfach i hyrwyddo ein rhanbarth unigryw ymhellach. Hoffem gael cymaint o bobl â phosib i gymryd rhan, po fwyaf o ymateb gawn ni, mwyaf fydd ein gwybodaeth am y Cymoedd.

Rhannwch eich syniadau gyda ni drwy lenwi’r bocs ar y dudalen gartref. Fel arall, os gewch chi fflach o syniad wrth grwydro obeutu’r lle, tecstiwch ‘CYMOEDD’ ac yna eich enw, tref a neges i 60777.  Bydd neges destun yn costio pris arferol eich rhwydwaith.

Rydym yn mynd i ddefnyddio'r sylwadau a’r dyfyniadau gorau a gawn gennych ar y wefan hon ac mewn ymgyrchoedd hyrwyddo yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu defnyddio eich geiriau chi i helpu annog ymwelwyr i mewn i'r ardal ac i ddenu busnesau i fuddsoddi yma. Wedi'r cyfan, does neb yn nabod yr ardal yn well na’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma a does neb gwell na chi i’n helpu i’w chanmol.

Gyda llaw, rhag ofn eich bod yn pendroni, ‘ni’ ar y wefan hon yw Blaenau’r Cymoedd, Y Cymoedd Gorllewinol a Phartneriaeth y Cymoedd. Ni yw’r bobl y tu ôl i’r fenter newydd yma sy’n bod er mwyn creu’r dyfodol gorau posib i ardal y Cymoedd.

Ymholiadau’r wasg:

Cliciwch yma i ddanfon e-bost

Ymholiadau Cyffredinol:

Cliciwch yma i ddanfon e-bost